Gwobr Y Faner Werdd i gampws Penglais

Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol ar Gampws Penglais Prifysgol Aberystwyth.

Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol ar Gampws Penglais Prifysgol Aberystwyth.

29 Gorffennaf 2015

Campws Penglais Prifysgol Aberystwyth yw’r campws Prifysgol cyntaf yng Nghymru i dderbyn Gwobr Y Faner Werdd.

Mae Gwobr Y Faner Werdd yn bartneriaeth ar draws y Deyrnas Gyfunol, sy’n cael ei gweithredu yng Nghymru gan Cadwch Cymru’n Daclus gyda chefnogaeth Adnoddau Naturiol Cymru, sydd yn cydnabod parciau a mannau gwyrdd o safon uchel.

Mae’r beirniaid yn arbenigwyr mewn gofod gwyrdd ac yn eu hasesu yn erbyn wyth maen prawf llym sy’n cynnwys safonau garddwriaethol, glendid, cynaliadwyedd a chyfranogiad y gymuned.

Eleni, torrwyd record wrth i 110 o barciau a mannau gwyrdd yng Nghymru gael eu dyfarnu yn deilwng o Wobr y Faner Werdd neu Wobr Gymunedol y Faner Werdd.

Dywedodd Cyfarwyddwr Datblygu Ystâd Prifysgol Aberystwyth, Mark Taylor: “Mae'n braf gweld gwaith caled pawb sy'n rhan o hyn yn cael ei wobrwyo, yn enwedig ein Tîm Tiroedd, a bod ystâd y Brifysgol yn cael ei chydnabod fel lle diogel, gwyrdd a phleserus i fyfyrwyr, staff ac ymwelwyr. Ein nod yw gwella ein tiroedd a’n adeiladau mewn modd mwy integredig o fewn ein strategaeth ystadau ddiwygiedig ar gyfer y dyfodol.”

Ychwanegodd Rheolwr Tiroedd Prifysgol Aberystwyth, Paul Evans: “Mae derbyn y wobr hon yn anrhydedd mawr ac yn arbennig gan taw ni yw’r brifysgol gyntaf yng Nghymru i’w derbyn.”

Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd y Faner Werdd gyda Cadwch Gymru'n Daclus: “Rydym yn falch iawn o ddathlu’r flwyddyn orau erioed i’r cynllun Gwobr y Faner Werdd. Mae pob un o'r baneri sy’n cael eu chwifio eleni yn dyst i ymdrechion y cannoedd o ddynion a menywod, yn staff a gwirfoddolwyr, sy'n gweithio'n ddiflino i gynnal y safonau uchel a fynnir gan wobr Y Faner Werdd.”

Bwriad y Brifysgol yw ymestyn Gwobr y Faner Werdd i’w safleoedd eraill, gan gynnwys Canolfan Llanbadarn a Gogerddan.

Bydd y datblygiadau hynny yn adlewyrchu nod strategol y Brifysgol, sy’n cael ei amlinellu yn Strategaeth Ystadau 2012-2027 y Brifysgol, ‘Adeiladu ein dyfodol’, o ddarparu amgylchedd pwrpasol o safon uchel ar gyfer ein myfyrwyr, staff a’r gymuned leol.

AU20515