Gwobr Sir Arthur Clarke i Beagle2

Dr Laurence Tyler, aelod o Grŵp Roboteg y Gofod, Prifysgol Aberystwyth

Dr Laurence Tyler, aelod o Grŵp Roboteg y Gofod, Prifysgol Aberystwyth

28 Gorffennaf 2015

Cydnabod cyfraniad y gwyddonydd gofod o Brifysgol Aberystwyth, y diweddar Athro Dave Barnes, wrth gyflwyno gwobr Sir Arthur Clarke i brosiect Beagle 2.

Mae’r prosiect Beagle 2 wedi ennill y Wobr ryngwladol Sir Arthur Clarke 2015 ar gyfer tîm Diwydiant/Prosiect.

Arweiniwyd y prosiect Beagle 2 gan yr Athro Colin Pillinger o’r Brifysgol Agored a chwaraeodd y diweddar Athro Dave Barnes, gwyddonydd gofod o Brifysgol Aberystwyth, rôl allweddol yn natblygiad un o brif elfenau’r prosiect - braich robotaidd y glaniwr.

Lansiwyd Beagle 2 yn 2003 ac roedd disgwyl iddo lanio ar y blaned Mawrth ar ddydd Nadolig yr un flwyddyn, ond ofnwyd bod y glaniwr wedi ei golli tan yn gynharach eleni.

Drwy ddefnyddio meddalwedd ‘Shape from Shading’ a ddatblygwyd gan Grŵp Roboteg Gofod Prifysgol Aberystwyth, cyfrannodd Dr Laurence Tyler a Dr Matt Gunn o Athrofa Mathemateg, Ffiseg a Chyfrifiadureg y Brifysgol at ddarganfyddiad lleoliad y glaniwr, a oedd wedi agor yn rhannol, ar y blaned Mawrth.

Cyflwynwyd Gwobr Sir Arthur Clarke yng Nghynhadledd Gofod y Deyrnas Gyfunol yn Lerpwl ar y 14 a 15 Gorffennaf 2015. 

Derbyniwyd y Wobr ar ran yr holl dîm Beagle 2 gan yr Athro Mark Sims (cyn-Reolwr Taith Ofod Beagle 2) o Brifysgol Caerlŷr a Dr Jim Clemmet (cyn-Brif Beiriannydd Beagle 2) o Airbus Space and Defence.

Dywedodd yr Athro Mark Sims:  “Roedd yn bleser derbyn y wobr gyda Jim Clemmet ar ran pawb yn nhîm Beagle 2.  Mae’n siom fawr fod Colin Pillinger, a arweiniodd brosiect Beagle 2, George Fraser a Dave Barnes oll wedi marw yn y flwyddyn ddiwethaf a ddim yn medru bod yno i weld y wobr sydd yn cydnabod ymdrechion anhygoel yr holl dîm, diwydiant ac academia i gynllunio, adeiladu, profi a danfon Beagle 2 i wyneb y blaned Mawrth.”

Mae’r wobr Tîm Prosiect/Diwydiant yn cydnabod cyflawniadau sylweddol neu ragorol gan dîm mewn gweithgareddau yn ymwneud â’r gofod.  Mae hyn yn cynnwys unrhyw weithgareddau gan sefydliad masnachol neu lywodraeth sydd yn cynllunio, gweithgynhyrchu, cyflenwi neu weithredu systemau, caledwedd neu offer gofod, neu sydd yn cefnogi a hyrwyddo’r diwydiant ofod.

Nodwyd yng nghyhoeddiad y wobr: “Cafwyd hyd i Beagle2 ar wyneb y blaned Mawrth yn Ionawr 2015, 11 mlynedd wedi iddi gael ei cholli, gan brofi bod y gwaith cyfrifo a’r beirianneg yn gywir wedi’r cyfan. Dim ond un neu, o bosib, ddau banel solar oedd rhwng y daith a llwyddiant ysgubol.”

Dywedodd Dr Laurence Tyler: “Mae'r wobr hon yn gydnabyddiaeth briodol o gamp anhygoel Tîm Beagle 2 a lwyddodd i lanio’r Glaniwr ar wyneb y blaned Mawrth, yn gyfan, drwy ddyfeisgarwch technegol mawr ac ar gyllideb gyfyngedig iawn. Yr wyf yn falch iawn ein bod wedi cyfrannu at ailddarganfod Beagle 2; o na fyddai’r Athro Dave Barnes yma gyda ni o hyd i rannu’r cyffro.”

Ceir mwy o wybodaeth a enillwyr Gwobrau Sir Arthur Clarke 2015 yma: http://www.bis-space.com/2015/07/17/14936/winners-of-the-sir-arthur-clarke-awards-2015