Urddo’r ffisegydd Dr Lyn Evans yn Gymrawd
Syr Emyr Jones Parry, Canghellor Prifysgol Aberystwyth, yn cyflwyno Dr Lyn Evans yn Gymrawd
17 Gorffennaf 2015
Urddwyd y ffisegydd o fri rhyngwladol, Dr Lyn Evans, yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth.
Mae Dr Evans wedi cyfrannu i brosiectau mawr y Sefydliad Ewropeaidd ar gyfer Ymchwil Niwclear (CERN) a bu’n arwain y tîm fu’n gyfrifol am gynllunio, adeiladu a chomisiynu’r Peiriant Gwrthdaro Hadron Mawr (LHC).
Yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol a Chymdeithas Ffisegol America, derbyniodd Dr Evans Wobr Ffiseg Sylfaenol Arbennig yn 2012 am ei gyfraniad tuag at ddarganfod yr Higgs Boson.
Yn frodor o Aberdâr, derbyniodd Dr Evans y Wobr Dewi Sant Gyntaf gan Lywodraeth Cymru yn 2014.
Cyflwynwyd Dr Lyn Evans yn Gymrawd ar ddydd Gwener 17 Gorffennaf gan yr Athro Andrew Evans, Pennaeth yr Adran Ffiseg.
Cyflwyniad Dr Lyn Evans yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth
Canghellor, Is-Ganghellor, darpar raddedigion, gyfeillion. Pleser o’r mwyaf yw cyflwyno’r Dr. Lyn Evans yn gymrawd Prifysgol Aberystwyth.
Chancellor, Vice-Chancellor, prospective graduates and supporters. It is an honour and a privilege to present Dr. Lyn Evans as a Fellow of Aberystwyth University.
Ym mhentref Cwmbach, ger Aberdar y ganwyd Lyn Evans yn fab i lowr, fel llawer ohonom y cyntaf o’r teulu i dderbyn addysg prifysgol, yn elwa o gefnogaeth cymdeithas gref ac agos a phobl dewr a doeth. Lyn Evans was born into a mining community in South Wales, raised and supported by people who shared the strong values and aspirations of the founders of this university. Lyn’s achievements would be Cwmbach’s highest were it not for its male voice choir who were the first choir to sing before a rugby match at Cardiff Arms Park.
Yn ddisgybl disglair yn Ysgol Ramadeg Aberdar, aeth i Brifysgol Abertawe i astudio Cemeg, ond newidiodd i Ffiseg a derbyn gradd dosbarth cyntaf. Lyn’s interest in high energy physics began at Swansea University where he obtained a first class degree and a PhD in lasers and plasmas. He then moved to CERN as an accelerator scientist where, to the envy of all experimental physicists, Lyn got to build and play with the biggest and best toy in the world. The Large Hadron Collider is large, really large. It lives underground in a tunnel that’s 27 kilometers long and its job is to accelerate two beams of protons to energies of 7 tera-electronvolts and then smash them together. Rocket science is peanuts in comparison.
The remarkable person who leads a six billion pound project that generates 15 million gigabytes of data each year needs to be far more than a world-leading scientist and engineer. Lyn has managed a team of over 2000 scientists at CERN with 10000 in total across the world waiting eagerly for the results from this fantastic machine. And in 2012, it delivered. The discovery of the Higgs boson is a pinnacle achievement of modern science and technology, and what an accolade to build the machine that led Steven Hawking to say “I had a bet with Gordon Kane of Michigan University that the Higgs particle wouldn't be found … it cost me $100."
Lyn’s achievements have received international recognition; he is a Fellow of the Royal Society, Fellow of the American Physical Society and has been awarded the Robert R. Wilson Prize and the Glazebrook Medal of the Institute of Physics. In 2014 he received the inaugural Saint David Award for Innovation and Technology from the Welsh Government.
Lyn is currently heading an international project that is scoping the next generation of particle accelerators and is very active in communication and promoting science to wider audiences, including pioneering initiatives to enable teachers and their students from Wales to visit CERN.
Mae Cymru’n ymfalchio yn llwyddiant ei mab, Lyn Evans, sydd wedi cyfrannu’n allweddol i brosiectau rhyngwladol mawr a phwysig a sy’n parhau i hyrwyddo gwyddoniaeth a thechnoleg i ieuenctid ein Gwlad.
Canghellor, mae’n bleser gen i gyflwyno Dr. Lyn Evans i chi yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth.
Chancellor, it is my absolute pleasure to present Dr. Lyn Evans to you as a Fellow of Aberystwyth University.
Anrhydeddau Prifysgol Aberystwyth 2015
Bydd Prifysgol Aberystwyth yn anrhydeddu deuddeg o bobl yn ystod seremonïau Graddio 2015 sy’n cael eu cynnal dros bedwar diwrnod, rhwng dydd Mawrth 14 a dydd Gwener 17 Gorffennaf, yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.
Caiff wyth Cymrodoriaeth Er Anrhydedd eu cyflwyno i unigolion sydd â, neu wedi bod â chysylltiad ag Aberystwyth neu Gymru, ac sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol yn eu dewis feysydd.
Cyflwynir dwy radd Doethuriaeth Er Anrhydedd i unigolion sydd wedi bod yn eithriadol o lwyddiannus yn eu maes, neu sydd â record hir o ymchwil a chyhoeddi nodedig.
Cyflwynir dwy radd Baglor Er Anrhydedd i unigolion sy’n aelodau o staff Prifysgol Aberystwyth sydd heb ennill gradd lefel mynediad, i gydnabod gwasanaeth hir, cyfraniad ac ymroddiad i’r Sefydliad; ac aelodau o’r gymuned leol sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i Aberystwyth a’r ardal.
Hefyd yn cael eu hanrhydeddu mae:
Cymrodoriaethau Er Anrhydedd:
• Eurwen Richards, cyn Llywydd y Gymdeithas Technoleg Llaeth a’r Meistr Caws benywaidd gyntaf yn y DG.
• Yr Athro Robin Williams CBE, ymchwilydd mewn ffiseg lled-ddargludyddion, Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol a cyn Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe.
• Yr Athro Miguel Alario-Franco, ymchwilydd mewn cemeg cyflwr soled a cyn Llywydd Academi Frenhinol y Gwyddorau Sbaen.
• Yr Arglwydd Bourne o Aberystwyth, Is-Ysgrifennydd Seneddol ar gyfer yr Adran Ynni a Newid yn yr Hinsawdd a Swyddfa Cymru a chyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth.
• Debbie Moon, Awdur arobryn BAFTA y gyfres deledu WolfBlood, cyfrannwr i gyfres Y Gwyll a chyn-fyfyrwraig o Brifysgol Aberystwyth.
• Dr Francesca Rhydderch, nofelydd arobryn, cyn-olygydd y New Welsh Review ac Athro Cysylltiol mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe.
• Iolo Williams, cyflwynydd dros 20 o gyfresi natur i’r BBC a S4C yn cynnwys Springwatch, Autumnwatch a Winterwatch, a cyn swyddog rhywogaethau'r RSPB dros Gymru.
Graddau Doethur Er Anrhydedd:
• Dylan Iorwerth, bardd ac awdur arobryn, cyflwynydd teledu a radio, sylfaenydd a Golygydd Gyfarwyddwr Golwg Cyf a chyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth.
• Yr Athro Huw Cathan Davies OBE, Cymrawd y Gymdeithas Feteoroleg Frenhinol, cyn ymchwilydd yr Academi Wyddoniaeth Genedlaethol yn NASA yn Virginia a chyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth.
Graddau Baglor Er Anrhydedd:
• Bryn Jones, cydlynydd Fforwm Cymunedol Penparcau ac un o sylfaenwyr y grŵp celfyddydau a gofal iechyd lleol, HAUL.
• Rhian Phillips, cyn-Bennaeth Ysgol Gynradd Plascrug a Llysgennad Dysgu Ysgolion Rhyngwladol dros Gymru.
AU19715