Urddo’r awdur Dr Francesca Rhydderch yn Gymrawd
Syr Emyr Jones Parry, Canghellor Prifysgol Aberystwyth, yn cyflwyno Francesca Rhydderch yn Gymrawd
17 Gorffennaf 2015
Urddwyd yr awdur arobryn, Dr Francesca Rhydderch, yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth.
Cyrhaeddodd ei nofel gyntaf, The Rice Paper Diaries, restr hir Gwobr Nofel Gyntaf Orau'r Authors’ Club ac enillodd Wobr Ffuglen Wales Book of the Year yn 2014. Yr un flwyddyn roedd ar restr fer Gwobr Stori Fer Genedlaethol y BBC.
Yn gyn-olygydd y New Welsh Review, derbyniodd Dr Rhydderch ddoethuriaeth mewn Llenyddiaeth Saesneg o Brifysgol Aberystwyth ac mae bellach yn Athro Cysylltiol mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe.
Cyflwynwyd Dr Francesca Rhydderch yn Gymrawd ar ddydd Gwener 17 Gorffennaf gan yr Athro Matthew Francis o Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol.
Cyflwyniad Dr Francesca Rhydderch yn Gymrawd
Canghellor, Is-Ganghellor, darpar raddedigion, gyfeillion. Pleser o’r mwyaf yw cyflwyno Dr Francesca Rhydderch yn gymrawd Prifysgol Aberystwyth.
Chancellor, Vice-Chancellor, prospective graduates and supporters. It is an honour and a privilege to present Dr Francesca Rhydderch as a Fellow of Aberystwyth University.
Francesca Rhydderch took her degree in Modern Languages at Newnham College, Cambridge, and her PhD in English Literature at Aberystwyth, beginning a long association with this university, and is now Associate Professor of Creative Writing at Swansea University. I have had the privilege of working with her when she was teaching creative writing here, and saw at first hand what a sensitive teacher she was, always immersed in her students’ problems and successes. She made her mark on the literary scene as editor of the magazine New Welsh Review, in which capacity she published Wales’s most distinguished writers and nurtured the careers of some of our newest talents, including some from Aberystwyth University, where the magazine is still based. But Fran – and I cannot call her anything more formal, even on this ceremonial occasion: she is Fran to everyone – is above all a writer of fiction, and in 2013 she published her first novel, The Rice Paper Diaries, inspired by the experiences of her great aunt as a prisoner of war in Hong Kong during World War II. The book received great acclaim, was longlisted for the Authors' Club Best First Novel Award and won the Wales Book of the Year Fiction Prize 2014. Fran is also a fine practitioner of a genre with a great tradition in Wales, the short story, and was one of the founders of the Welsh Short Story Network. Among the many things her husband, our much-missed former colleague Professor Damian Walford Davies, brought to the marriage was his collection of stuffed birds. Some brides would have been freaked out. Fran’s response, more characteristically, was to write about them, and the resultant story ‘The Taxidermist’s Daughter’ was shortlisted for the BBC National Short Story Award in 2014. A generous supporter and encourager of the writing of others, and a longstanding friend of this university, Fran has emerged in recent years as one of Wales’s most talented and exciting literary voices.
Canghellor, mae’n bleser gen i gyflwyno Dr Francesca Rhydderch i chi yn Gymrawd.
Chancellor, it is my absolute pleasure to present Dr Francesca Rhydderch to you as a Fellow of Aberystwyth University.
Anrhydeddau Prifysgol Aberystwyth 2015
Bydd Prifysgol Aberystwyth yn anrhydeddu deuddeg o bobl yn ystod seremonïau Graddio 2015 sy’n cael eu cynnal dros bedwar diwrnod, rhwng dydd Mawrth 14 a dydd Gwener 17 Gorffennaf, yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.
Caiff wyth Cymrodoriaeth Er Anrhydedd eu cyflwyno i unigolion sydd â, neu wedi bod â chysylltiad ag Aberystwyth neu Gymru, ac sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol yn eu dewis feysydd.
Cyflwynir dwy radd Doethuriaeth Er Anrhydedd i unigolion sydd wedi bod yn eithriadol o lwyddiannus yn eu maes, neu sydd â record hir o ymchwil a chyhoeddi nodedig.
Cyflwynir dwy radd Baglor Er Anrhydedd i unigolion sy’n aelodau o staff Prifysgol Aberystwyth sydd heb ennill gradd lefel mynediad, i gydnabod gwasanaeth hir, cyfraniad ac ymroddiad i’r Sefydliad; ac aelodau o’r gymuned leol sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i Aberystwyth a’r ardal.
Hefyd yn cael eu hanrhydeddu mae:
Cymrodoriaethau Er Anrhydedd:
• Eurwen Richards, cyn Llywydd y Gymdeithas Technoleg Llaeth a’r Meistr Caws benywaidd gyntaf yn y DG.
• Yr Athro Robin Williams CBE, ymchwilydd mewn ffiseg lled-ddargludyddion, Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol a cyn Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe.
• Yr Athro Miguel Alario-Franco, ymchwilydd mewn cemeg cyflwr soled a cyn Llywydd Academi Frenhinol y Gwyddorau Sbaen.
• Yr Arglwydd Bourne o Aberystwyth, Is-Ysgrifennydd Seneddol ar gyfer yr Adran Ynni a Newid yn yr Hinsawdd a Swyddfa Cymru a chyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth.
• Debbie Moon, Awdur arobryn BAFTA y gyfres deledu WolfBlood, cyfrannwr i gyfres Y Gwyll a chyn-fyfyrwraig o Brifysgol Aberystwyth.
• Dr Lyn Evans, ymchwilydd mewn ffiseg egni uchel ac arweinydd y tîm fu’n gyfrifol am gynllunio, adeiladu a chomisiynu’r Peiriant Gwrthdaro Hadron Mawr.
• Iolo Williams, cyflwynydd dros 20 o gyfresi natur i’r BBC a S4C yn cynnwys Springwatch, Autumnwatch a Winterwatch, a cyn swyddog rhywogaethau'r RSPB dros Gymru.
Graddau Doethur Er Anrhydedd:
• Dylan Iorwerth, bardd ac awdur arobryn, cyflwynydd teledu a radio, sylfaenydd a Golygydd Gyfarwyddwr Golwg Cyf a chyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth.
• Yr Athro Huw Cathan Davies OBE, Cymrawd y Gymdeithas Feteoroleg Frenhinol, cyn ymchwilydd yr Academi Wyddoniaeth Genedlaethol yn NASA yn Virginia a chyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth.
Graddau Baglor Er Anrhydedd:
• Bryn Jones, cydlynydd Fforwm Cymunedol Penparcau ac un o sylfaenwyr y grŵp celfyddydau a gofal iechyd lleol, HAUL.
• Rhian Phillips, cyn-Bennaeth Ysgol Gynradd Plascrug a Llysgennad Dysgu Ysgolion Rhyngwladol dros Gymru.
AU19715