Y Sioe Frenhinol, un stori ar y tro
Greg Thomas
16 Gorffennaf 2015
Bydd Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru 2015 Cymru yn gweld parhad prosiect ‘Agricultural Shows: Driving and Displaying Rural Change’ gan Greg Thomas, ymchwilydd olraddedig yn Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth.
Bu’n cydweithio’n agos gyda Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, ac mae’r prosiect wedi cynhyrchu dau adroddiad hyd yn hyn, ‘Arolwg Ymwelwyr Sioe Frenhinol Cymru 2014’ ac ‘Arolwg Masnachwyr Sioe Frenhinol Cymru 2014’.
Mae’r adroddiadau hyn wedi darparu adborth hanfodol ar y sioe i Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru a byddant yn cyfrannu at lunio cyfeiriad y sioe i’r dyfodol.
Dywedodd Steve Hughson, Prif Weithredwr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru: “Mae’n ffantastig bod Greg yn gwneud PhD ar y Sioe Frenhinol ac yn dystiolaeth, pe byddai ei angen, o gryfder brand y Sioe”.
Yn Sioe 2015 (20 - 23 Gorffennaf), bydd Greg yn gweithio ar brosiect ‘Pobl y Sioe Frenhinol’. Llwyddiant prosiect ‘Humans of New York’ sydd wedi ysbrydoli’r cynllun a fydd yn adrodd storïau am y cyffredin a’r anghyffredin, gan gwmpasu pob agwedd a grŵp o bobl sydd yn mynychu’r Sioe Frenhinol ac yn cyfrannu tuag at ei wneud yn ddigwyddiad mawreddog.
Dywedodd Greg: “I rai pobl mae’r Sioe Frenhinol yn wythnos o waith, tra i eraill mae’n wythnos o hwyl. I nifer mae’n ddiwrnod blynyddol allan, ac i’r cystadleuwyr mae’r Sioe yn ben llanw ar bron i flwyddyn o waith paratoi. Mae gan bob ymwelydd i’r sioe eu stori unigol - stori wahanol gyda’r Sioe Frenhinol yn ffactor cyffredin , sydd yn eu tynnu at ei gilydd mewn dathliad o amaethyddiaeth a Chymru. Trwy’r prosiect hwn, a gan ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol, rwy’n gobeithio dweud cymaint o’r storïau hyn ag sydd yn bosib, i arddangos i’r byd pam fod y Sioe Frenhinol mor arbennig”.
Trwy gydol y sioe, caiff y storïau hyn eu hadrodd ar Facebook ar y dudalen ‘Humans of the Royal Welsh Show’ ac ar Trydar ar y cyfrif ‘@HumansOfTheRWS’. Gwahoddir aelodau o’r cyhoedd i hoffi a dilyn y tudalennau hyn a gadael eu sylwadau yn ystod yr wythnos.
Yn ogystal, bydd Greg yn cynnal cyfres o gyfweliadau am y Sioe Frenhinol gydag unigolion allweddol o Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru a’r Gymru wledig ehangach. Os hoffech fod yn rhan o’r prosiect, bod gennych stori i’w rannu, neu unrhyw atgofion diddorol o’r Sioe Frenhinol, cysylltwch gyda Greg.
Gobeithir bydd yr ymchwil hyn yn canfod y buddiannau mae sioeau amaethyddol yn rhoi i ardaloedd gwledig, eu rôl ehangach mewn newid gwledig, y modd y mae sioeau amaethyddol yn cysylltu trefi gyda chefn gwlad, a hefyd eu rôl yn hwyluso cysylltiadau rhwng amaethwyr a Llywodraeth Cymru.
Os hoffech fwy o wybodaeth am y prosiect, cyfrannu, neu gysylltu gyda Greg, gellir dod o hyd i’r manylion cyswllt yma.