Urddo'r Athro Miguel Alario Franco yn Gymrawd
Yr Athro Miguel Alario Franco, Cymrawd Prifysgol Aberystwyth
14 Gorffennaf 2015
Urddwyd yr ymchwilydd hyglod mewn cemeg cyflwr soled, yr Athro Miguel Alario Franco, yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth.
Mae’r Athro Alario Franco yn Athro Emeritws yn yr Universidad Complutense Madrid, lle buodd yn Ddeon y Gwyddorau Cemegol.
Yn awdur 290 o bapurau ymchwil, mae’r Athro Alario Franco yn gyn Llywydd Academi Frenhinol y Gwyddorau Sbaen, yn ogystal â sylfaenydd a llywydd cyntaf Grŵp Cemeg Cyflwr Solet Cymdeithas Frenhinol Sbaen.
Bu’r Athro Alario Franco yn gweithio ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth am ddwy flynedd a hanner yn ystod y 1970au.
Cyflwynwyd yr Athro Alario Franco yn Gymrawd ar ddydd Mawrth 14 Gorffennaf gan yr Athro Jamie Newbold, Cyfarwyddwr Ymchwil Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig.
Cyflwyniad yr Athro Alario Franco yn Gymrawd gan yr Athro Jamie Newbold:
“Dirprwy Ganghellor, Is-Ganghellor, darpar raddedigion, gyfeillion. Pleser o’r mwyaf yw cyflwyno Professor Miguel Alario Franco yn gymrawd Prifysgol Aberystwyth.
Pro Chancellor, Vice-Chancellor, prospective graduates and supporters. It is an honour and a privilege to present Professor Miguel Alario Franco as a Fellow of Aberystwyth University.
Professor Franco worked at the University College of Wales, Aberystwyth, for two and a half years from 1972 onwards and it is a delight be able to welcome him back to day. Since leaving Aberystwyth he has been appointed Professor of Inorganic Solid State Chemistry at Universidad Complutense Madrid (UCM) where he was also the Head of Department and from 1986-1994 the Dean of Chemical Science.
Professor Franco is a member and past President of the Royal Academy of Sciences of Spain. He was founding member and first President of the Solid State Chemistry Group of the Spanish Royal Society of Chemistry. In addition he is an honorary member of the Academy of Sciences of Colombia, a Corresponding member of the Academy of Sciences of Argentina and Honorary member of the Materials Research Society of India.
Professor Franco has authored four patents and 290 research papers that have been cited on over 3000 occasions. He is much in demand as a speaker at scientific meetings and international conferences across the globe, including I note addressing the prestigious Gordon Research Conferences in Solid State Chemistry in 1990 and 21 years later in 2012. He continues to have an active research career in the Synthesis of Non-Molecular New Materials –including electronic, magnetic, superconducting & fuel cell and Li-battery materials and on the influence of structure, composition and microstructure on the properties of such materials
Dirprwy Ganghellor mae’n bleser gen i gyflwyno Professor Miguel Alario Franco i chi yn Gymrawd.
Pro Chancellor, it is my absolute pleasure to present Professor Miguel Alario Franco to you as a Fellow of Aberystwyth University.”
Anrhydeddau Prifysgol Aberystwyth 2015
Bydd Prifysgol Aberystwyth yn anrhydeddu deuddeg o bobl yn ystod seremonïau Graddio 2015 sy’n cael eu cynnal dros bedwar diwrnod, rhwng dydd Mawrth 14 a dydd Gwener 17 Gorffennaf, yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.
Caiff wyth Cymrodoriaeth Er Anrhydedd eu cyflwyno i unigolion sydd â, neu wedi bod â chysylltiad ag Aberystwyth neu Gymru, ac sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol yn eu dewis feysydd.
Cyflwynir dwy radd Doethuriaeth Er Anrhydedd i unigolion sydd wedi bod yn eithriadol o lwyddiannus yn eu maes, neu sydd â record hir o ymchwil a chyhoeddi nodedig.
Cyflwynir dwy radd Baglor Er Anrhydedd i unigolion sy’n aelodau o staff Prifysgol Aberystwyth sydd heb ennill gradd lefel mynediad, i gydnabod gwasanaeth hir, cyfraniad ac ymroddiad i’r Sefydliad; ac aelodau o’r gymuned leol sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i Aberystwyth a’r ardal.
Hefyd yn cael eu hanrhydeddu mae:
Cymrodoriaethau Er Anrhydedd:
• Eurwen Richards, cyn Llywydd y Gymdeithas Technoleg Llaeth a’r Meistr Caws benywaidd gyntaf yn y DG.
• Yr Athro Robin Williams CBE, ymchwilydd mewn ffiseg lled-ddargludyddion, Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol a cyn Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe.
• Yr Arglwydd Bourne o Aberystwyth, Is-Ysgrifennydd Seneddol ar gyfer yr Adran Ynni a Newid yn yr Hinsawdd a Swyddfa Cymru a chyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth.
• Debbie Moon, Awdur arobryn BAFTA y gyfres deledu WolfBlood, cyfrannwr i gyfres Y Gwyll a chyn-fyfyrwraig o Brifysgol Aberystwyth.
• Dr Francesca Rhydderch, nofelydd arobryn, cyn-olygydd y New Welsh Review ac Athro Cysylltiol mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe.
• Dr Lyn Evans, ymchwilydd mewn ffiseg egni uchel ac arweinydd y tîm fu’n gyfrifol am gynllunio, adeiladu a chomisiynu’r Peiriant Gwrthdaro Hadron Mawr.
• Iolo Williams, cyflwynydd dros 20 o gyfresi natur i’r BBC a S4C yn cynnwys Springwatch, Autumnwatch a Winterwatch, a cyn swyddog rhywogaethau'r RSPB dros Gymru.
Graddau Doethur Er Anrhydedd:
• Dylan Iorwerth, bardd ac awdur arobryn, cyflwynydd teledu a radio, sylfaenydd a Golygydd Gyfarwyddwr Golwg Cyf a chyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth.
• Yr Athro Huw Cathan Davies OBE, Cymrawd y Gymdeithas Feteoroleg Frenhinol, cyn ymchwilydd yr Academi Wyddoniaeth Genedlaethol yn NASA yn Virginia a chyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth.
Graddau Baglor Er Anrhydedd:
• Bryn Jones, cydlynydd Fforwm Cymunedol Penparcau ac un o sylfaenwyr y grŵp celfyddydau a gofal iechyd lleol, HAUL.
• Rhian Phillips, cyn-Bennaeth Ysgol Gynradd Plascrug a Llysgennad Dysgu Ysgolion Rhyngwladol dros Gymru.