Urddo'r Athro Robin Williams CBE yn Gymrawd
Yr Athro Robin Williams CBE, Cymrawd Aberystwyth
14 Gorffennaf 2015
Urddwyd yr ymchwilydd uchel ei barch mewn ffiseg lled-ddargludyddion, yr Athro Robin Williams CBE, yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth.
Yn gyn Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe, mae’r Athro Williams yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol a dyfarnwyd CBE iddo yn 2004 am ei gyfraniad i ymchwil mewn addysg uwch.
Mae’r Athro Williams yn aelod Cyngor o Gyngor Cynghori ar Wyddoniaeth Cymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, ac yn aelod o fwrdd ymgynghorol y Ganolfan Uwch Ddeunyddiau a Dyfeisiau Ffwythiannol Prifysgol Aberystwyth.
Cyflwynwyd yr Athro Robin Williams CBE yn Gymrawd ar ddydd Mawrth 14 Gorffennaf gan yr Athro Andrew Evans, Pennaeth yr Adran Ffiseg.
Cyflwyniad yr Athro Robin Williams
“Canghellor, Is-Ganghellor, darpar raddedigion, gyfeillion. Pleser o’r mwyaf yw cyflwyno’r Athro Robin Williams yn gymrawd Prifysgol Aberystwyth.
Chancellor, Vice-Chancellor, prospective graduates and supporters. It is an honour and a privilege to present Professor Robin Williams as a Fellow of Aberystwyth University.
Ym mhentref Llanuwchllyn ar lannau llyn Tegid y ganed yr Athro Robin Williams, CBE, FRS neu Robin Rhydsarn fel yr adnabwyd ef yn yr ardal honno.
Aeth i’r ysgol yn y Bala ac yna i’r Brifysgol ym Mangor lle graddiodd mewn Peirianneg gyda gradd dosbarth cyntaf. It was at university that Robin’s passion for science and engineering led to his lifelong interest in semiconductors, those ubiquitous materials that are neither metals nor insulators but whose conduction of electricity and emission of light can be engineered to make integrated circuits, mobile phones and lasers.
With a PhD to add to his degree he travelled the world and excelled at the best laboratories, including the Max Planck Intstitute in Stuttgart and the XEROX laboratories in the United States. He returned to these islands as a lecturer to Coleraine in Northern Ireland, and from this base, he pioneered the use of synchrotron radiation to study new materials on the road to nano-science and nano-technology.
Ar ol degawd ar yr Ynys Werdd, dychwelodd i Gymru, i arwain yr Adran Ffiseg a Seryddiaeth yng Nghaerdydd. Yno cefais y fraint o fod yn un o’i fyfyrwyr ymchwil cyntaf. Roedd ei frwdfrydedd, ei egni a’i wybodaeth eang yn ysbrydoliaeth i ni gyd; It is perhaps testament to his ability and personality that those of us who have studied and worked with him still enjoy his company and respect his words.
Having firmly established Cardiff as a major global centre for semiconductor research, he moved to Swansea to become Vice-Chancellor, overseeing a period of change and growth that saw many more students from Wales and beyond studying at our Universities.
His reputation as a scientist has led to many international awards and prizes, but this fellowship also recognises his considerable contribution to science and education in his native Wales.
Mae Cymru yn parhau yn bwysig iddo; mae wedi cyfrannu’n gyson at yr Eisteddfod, ef cadeiriodd y bwrdd arweinodd at sefydlu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac hefyd Bwrdd Cyflenwi Sêr Cymru. Our country continues to benefit from his expertise and wisdom through his active roles in the Higher Education Funding Council for Wales, the Welsh Government’s Science Advisory Committee and the Learned Society for Wales. As an advocate of the importance of collaboration and co-operation in Wales, this fellowship completes the set.
Canghellor, mae’n bleser gen i gyflwyno ‘r Athro Robin Williams i chi yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth.
Chancellor, it is my absolute pleasure to present Professor Robin Williams to you as a Fellow of Aberystwyth University.”
Anrhydeddau Prifysgol Aberystwyth 2015
Bydd Prifysgol Aberystwyth yn anrhydeddu deuddeg o bobl yn ystod seremonïau Graddio 2015 sy’n cael eu cynnal dros bedwar diwrnod, rhwng dydd Mawrth 14 a dydd Gwener 17 Gorffennaf, yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.
Caiff wyth Cymrodoriaeth Er Anrhydedd eu cyflwyno i unigolion sydd â, neu wedi bod â chysylltiad ag Aberystwyth neu Gymru, ac sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol yn eu dewis feysydd.
Cyflwynir dwy radd Doethuriaeth Er Anrhydedd i unigolion sydd wedi bod yn eithriadol o lwyddiannus yn eu maes, neu sydd â record hir o ymchwil a chyhoeddi nodedig.
Cyflwynir dwy radd Baglor Er Anrhydedd i unigolion sy’n aelodau o staff Prifysgol Aberystwyth sydd heb ennill gradd lefel mynediad, i gydnabod gwasanaeth hir, cyfraniad ac ymroddiad i’r Sefydliad; ac aelodau o’r gymuned leol sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i Aberystwyth a’r ardal.
Hefyd yn cael eu hanrhydeddu mae:
Cymrodoriaethau Er Anrhydedd:
• Eurwen Richards, cyn Llywydd y Gymdeithas Technoleg Llaeth a’r Meistr Caws benywaidd gyntaf yn y DG.
• Yr Athro Miguel Alario-Franco, ymchwilydd mewn cemeg cyflwr soled a cyn Llywydd Academi Frenhinol y Gwyddorau Sbaen.
• Yr Arglwydd Bourne o Aberystwyth, Is-Ysgrifennydd Seneddol ar gyfer yr Adran Ynni a Newid yn yr Hinsawdd a Swyddfa Cymru a chyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth.
• Debbie Moon, Awdur arobryn BAFTA y gyfres deledu WolfBlood, cyfrannwr i gyfres Y Gwyll a chyn-fyfyrwraig o Brifysgol Aberystwyth.
• Dr Francesca Rhydderch, nofelydd arobryn, cyn-olygydd y New Welsh Review ac Athro Cysylltiol mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe.
• Dr Lyn Evans, ymchwilydd mewn ffiseg egni uchel ac arweinydd y tîm fu’n gyfrifol am gynllunio, adeiladu a chomisiynu’r Peiriant Gwrthdaro Hadron Mawr.
• Iolo Williams, cyflwynydd dros 20 o gyfresi natur i’r BBC a S4C yn cynnwys Springwatch, Autumnwatch a Winterwatch, a cyn swyddog rhywogaethau'r RSPB dros Gymru.
Graddau Doethur Er Anrhydedd:
• Dylan Iorwerth, bardd ac awdur arobryn, cyflwynydd teledu a radio, sylfaenydd a Golygydd Gyfarwyddwr Golwg Cyf a chyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth.
• Yr Athro Huw Cathan Davies OBE, Cymrawd y Gymdeithas Feteoroleg Frenhinol, cyn ymchwilydd yr Academi Wyddoniaeth Genedlaethol yn NASA yn Virginia a chyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth.
Graddau Baglor Er Anrhydedd:
• Bryn Jones, cydlynydd Fforwm Cymunedol Penparcau ac un o sylfaenwyr y grŵp celfyddydau a gofal iechyd lleol, HAUL.
• Rhian Phillips, cyn-Bennaeth Ysgol Gynradd Plascrug a Llysgennad Dysgu Ysgolion Rhyngwladol dros Gymru.
AU19715