Rheoli adnoddau dŵr yn Kazakhstan
Yr Athro Mark Macklin
07 Gorffennaf 2015
Mae’r Athro Mark Macklin a’i dîm wedi derbyn gwobr o £300,000 oddi wrth gynllun partneriaeth Newton-Al-Farabi y Cyngor Prydeinig.
Bydd yr Athro Macklin yn gweithio yn Kazakhstan gyda Dr Willem Toonen i ddatblygu strategaeth rheoli adnoddau dŵr yn seiliedig ar dystiolaeth yn ne Kazakhstan.
Caiff gwaith maes ei wneud i werthuso effaith cloddio am fetel nawr ac yn y gorffennol ar ansawdd dŵr a gwaddod yn yr ardal, asesu bygythiad llifogydd ac archolladwyedd cymunedau i newid hinsawdd, a lliniaru’r problemau hyn drwy gynhyrchu polisïau i wella gwydnwch yn erbyn straen dŵr.
Fel rhan o’r prosiect bydd y tîm yn cydweithio gyda phrifysgolion yn Kazakhstan, a Sefydliad Daearyddiaeth sydd wedi ei ariannu gan y Llywodraeth yn Almaty, i wneud y gorau o’r cyfle i rannu gwybodaeth a hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o reolwyr adnoddau dŵr yn Kazakhstan.
Mae poblogaeth de Kazakhstan bron yn llwyr ddibynnol ar ffynonellau dŵr o rewlifoedd a meysydd eira mynyddoedd Pamir a Tien Shan. Mae argyfyngau amgylcheddol yn ystod y gorffennol pell a’r cyfnod Sofietaidd wedi dangos bod cymunedau amaethyddol sydd yn ddibynnol ar systemau afonydd a dyfrhau yn arbennig o agored i fygythiad newid hinsawdd tymor byr.
Bydd yr Athro Macklin a Dr Tooten yn teithio i Kazakhstan ar Awst 19 i ddechrau ar y gwaith maes.
Dywedodd yr Athro Mark Macklin: “Mae Kazakhstan mewn man colynnol yn nhermau hydro-wleidyddiaeth canol Asia a bydd y prosiect hwn yn gosod y sylfeini am ddatblygiad cynaliadwy o adnoddau dŵr yn yr ardal ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.”
Mae’r athro Mark Macklin wedi bod yn Athro mewn Daearyddiaeth Ffisegol yn Aberystwyth ers 1999 ac ef oedd sylfaenydd y Grŵp Ymchwil Hydroleg a Deinameg Basn Afonydd. Mae hefyd yn gyfarwyddwr y Canolfan Ymchwil i Ddalgylchoedd ac Arfordiroedd ac yn dal y Gadair Geomorffoleg Afonol ym Mhrifysgol Massey, Seland Newydd.
AU22415