Bywyd Newydd i’r Hen Goleg

Yr Hen Goleg

Yr Hen Goleg

03 Gorffennaf 2015

Gwahoddir aelodau o’r cyhoedd i roi eu barn ar gynlluniau i ailddatblygu Hen Goleg Prifysgol Aberystwyth ar ddydd Mawrth 7 Gorffennaf.

Bydd Dr Rhodri Llwyd Morgan, Dirprwy Is-Ganghellor a Louise Jagger, Cyfarwyddwraig Datblygu a Chysylltiadau Alumni Prifysgol Aberystwyth yn bresennol yn yr Hen Goleg rhwng 5.30yb a7.30yh i drafod y prosiect a’r cynigion cychwynnol.

Wedi ei adeiladu yn wreiddiol fel gwesty gan y contractwr rheilffordd Thomas Savin, prynwyd yr Hen Goleg gan Bwyllgor Prifysgol Cymru am £10,000 yn 1867, ffracsiwn yn unig o’r gost o’i adeiladu.  Cyrhaeddodd y myfyrwyr cyntaf ym mis Hydref 1872.

Mae’r cynigion cychwynnol ar gyfer y prosiect ‘Bywyd Newydd i’r Hen Goleg’ yn cynnwys cynlluniau am ystod o gyfleusterau cymunedol megis oriel arddangos, stiwdios artistiaid, siop ac amgueddfa’r Brifysgol, mannau cymunedol / perfformio, caffi / bwyty a mannau masnachol i fusnesau bach, yn ogystal â darpariaeth ar gyfer myfyrwyr a defnydd academaidd.

Mae’r cynigion yn ymestyn tu hwnt i’r Hen Goleg ei hun ac yn cynnwys datblygiadau o’r Ystafelloedd Ymgynnull ac adeiladau Prifysgol eraill yn yr ardal.

Gall y prosiect cyfan arwain at fuddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd yn ystod y blynyddoedd yn arwain at ddathliadau 150 mlwyddiant y Brifysgol yn 2022.

Dywedodd Dr Rhodri Llwyd Morgan:  “Mae barn pobl Aberystwyth a’r gymuned ehangach yn bwysig i ddatblygiad y prosiect yn ystod y cam pwysig hwn o’r cynllunio wrth i ni ddechrau penderfynu ar opsiynau a chynlluniau i godi arian.

“Edrychwn ymlaen yn fawr i glywed barn pobl ar ein cynlluniau i wireddu ein gweledigaeth o ddatblygu’r Hen Goleg i ganolfan ddeinamig ar gyfer dysgu, treftadaeth a diwylliant a fydd yn darparu cyfleusterau ardderchog ar gyfer y Brifysgol a phobl Aberystwyth a thu hwnt.”

AU20015