Prifysgol Aberystwyth yn croesawu Ysgol Gristnogol Cymru Corea

Myfyrwyr o Ysgol Gristnogol Ryngwladol Corea Cymru y tu allan i’r Hen Goleg, yng nghwmni Rachael Davey, Cyfarwyddwr y Ganolfan Saesneg Rhyngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth (pellaf ar y chwith), Prifathro Daniel Sung a Dirprwy Brifathro Heeuyun Choi (canol) a Sarah Mckenna o’r Ganolfan Saesneg Rhyngwladol (pellaf ar y dde).

Myfyrwyr o Ysgol Gristnogol Ryngwladol Corea Cymru y tu allan i’r Hen Goleg, yng nghwmni Rachael Davey, Cyfarwyddwr y Ganolfan Saesneg Rhyngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth (pellaf ar y chwith), Prifathro Daniel Sung a Dirprwy Brifathro Heeuyun Choi (canol) a Sarah Mckenna o’r Ganolfan Saesneg Rhyngwladol (pellaf ar y dde).

03 Gorffennaf 2015

Yr wythnos hon mae Canolfan Saesneg Rhyngwladol Prifysgol Aberystwyth wedi croesawu ymwelwyr o Ysgol Gristnogol Ryngwladol Cymru Corea (KWICS), ger Seoul.

Mae 14 disgybl o’r ysgol, ynghyd â’r Prifathro Daniel Sung a’r Dirprwy Brifathro Heeyun Choi, yn ymweld â Chymru yn ystod ymweliad mis o hyd i’r Deyrnas Gyfunol.

Yn ystod eu hamser yn Aberystwyth, maent wedi mynychu gweithdy rhyngweithiol yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, sesiwn ymarferol gwneud ffilmiau gyda’r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, wedi gweld y datblygiadau diweddaraf yn yr Adran Cyfrifiadureg ac ymweld â’r Ysgol Addysg a’r Ysgol Rheolaeth a Busnes.

Hefyd, buont yn ymweld ag Ysgol Penglais lle cawsant gyfle i rannu gwasanaeth a dosbarthiadau a chwrdd â’r Prifathro, Matthew Brown, ac yn ymweld â Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Sefydlwyd yr ysgol hon sydd ag enw anarferol  yn 2008, ond mae'r cysylltiad rhwng Cymru a Chorea yn dyddio'n ôl i 1866, pan fu’r cenhadwr o Gymro, Robert Jermain Thomas yn lledaenu’r ddysgeidiaeth Brotestannaidd yn Nwyrain Asia.

Mae’r Prifathro Sung yn cyfeirio at sut, wrth i Thomas farw, y rhoddodd ei feibl i filwr o Corea.  Heb wybod arwyddocâd y Beibl, defnyddiodd y milwr y tudalennau fel papur wal ar gyfer ei dŷ.  Yn raddol, wrth iddo ddarllen y tudalennau ar y wal, cafodd dröedigaeth.

Tra bod Thomas wedi cael ei anghofio i raddau helaeth yn ei wlad enedigol, mae ei enw yn uchel ei barch yng Nghorea, a phob blwyddyn mae cannoedd o fobl o Corea yn gwneud  y bererindod i gyn gartref Thomas ger y Fenni.

Bu’r Prifathro Sung a’r disgyblion yn ymweld â Chapel Hanover, ger man geni Robert Jermain Thomas, ac yn cwrdd â’r gweinidog newydd o Corea, y Parchedig Daniel Yoo.

Y cysylltiad ysbrydol a ddenodd Daniel Sung i astudio yng Nghymru. Ar ôl iddo ddychwelyd i Dde Corea roedd yn benderfynol o gryfhau'r cysylltiadau rhwng y ddwy genedl.

Wedi'i ysbrydoli gan ei gredoau Cristnogol a’i brofiad o addysg ym Mhrydain, sefydlodd Daniel Sung KWICS yn 2008 ac mae bellach yn Brifathro.

Yn ôl Daniel Sung, athroniaeth KWICS yw 'addysgu’r person cyfan', sy’n wahanol i'r ymagwedd addysgol nodweddiadol yng Nghorea, sydd yn ei ôl ef, yn credu mewn canolbwyntio ar baratoi myfyrwyr ar gyfer arholiadau mynediad prifysgol.

Yn ogystal â dysgu cwricwlwm academaidd lawn, mae KWICS yn annog disgyblion i gymryd rhan mewn gwasanaeth cymunedol, teithio rhyngwladol a gweithgareddau artistig a cherddorol.

Gweledigaeth y Prifathro Sung yw datblygu disgyblion sydd yn gadael yr ysgol ac sy’n  meddu ar agwedd egwyddorol a byd-eang, ac awydd i gyfrannu at Gorea a chymdeithas Cymru.

Disgrifiad ei brofiad ei hun fel myfyriwr yng Nghymru oedd bod "y bobl yno yn gynnes, yn garedig ac yn gwneud i chi deimlo'n gartrefol".

Mae’r Prifathro Sung yn gobeithio gall ei fyfyrwyr "barhau i fynd i Gymru ar gyfer eu hastudiaethau a thra eu bod yno, efelychu gwaith y Cenhadwr o Gymro Robert Jermain Thomas drwy gefnogi a gwasanaethu'r gymuned leol".

Ymwelodd Rachael Davey, Cyfarwyddwr y Ganolfan Saesneg Rhyngwladol, â KWICS ym mis Rhagfyr 2014 i ffurfioli'r bartneriaeth rhwng yr ysgol a Phrifysgol Aberystwyth drwy lofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth.

Bydd deg o ddisgyblion KWICS yn symud ymlaen i astudio graddau israddedig ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2015, a gobeithir bydd y bartneriaeth yn parhau i dyfu.