Callum a’r banc genynnau siocled

Callum Scotson yn y Ganolfan Phenomeg Planhigion Genedlaethol, IBERS, Prifysgol Aberystwyth

Callum Scotson yn y Ganolfan Phenomeg Planhigion Genedlaethol, IBERS, Prifysgol Aberystwyth

26 Mehefin 2015

Mae Callum Scotson, myfyriwr gwyddor planhigion yn IBERS, yn astudio ym Mhrifysgol India’r Gorllewin, Trinidad, fis yma, ar ôl derbyn cyllid gan y Gymdeithas Amaethyddiaeth Drofannol i gwblhau ei ymchwil ar gyfer ei draethawd hir israddedig ar flodau cacao.

Mae Callum wrthi’n cwblhau ail flwyddyn ei radd israddedig mewn Gwyddorau Planhigion yn Athrofa Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) Prifysgol Aberystwyth. Gwnaeth gais ar gyfer Gwobr Astudio Ryngwladol y Gymdeithas Amaethyddiaeth Drofannol, sydd yn agored i fyfyrwyr uwchraddedig yn unig.

Gwnaeth y Gymdeithas eithriad wrth ddyfarnu’r wobr i Callum fel myfyriwr israddedig, ar sail cryfder ei bwnc ymchwil a’i gynnig. Fe’i cefnogwyd gan yr Athro Mike Gooding, Cyfarwyddwr, a John Warren, Athro Botaneg yn IBERS, a fu yntau’n gweithio fel bridiwr coco yn y Banc Genynnau Coco Rhyngwladol yn Trinidad.

Mae Callum yn Trinidad trwy gydol mis Mehefin ac yn gweithio yng Nghanolfan Ymchwil Coco Prifysgol India’r Gorllewin. Mae ei waith ymchwil yn ddilyniant o astudiaethau blaenorol a wnaeth ganfod fod blodau sy’n tyfu o foncyff y goeden gacao yn dwyn mwy o hadau cacao na’r blodau sy’n tyfu ar ei changhennau.

Bydd gwaith ymchwil Callum yn edrych ar wahanol fathau o goed cacao gan ddefnyddio Banc Genynnau Coco Rhyngwladol y ganolfan (catalog genetig sy’n cynnwys tua 2000 o amrywiaethau o goed cacao) er mwyn nodi’r amrywiaethau sy’n dwyn cymarebau uwch o flodau o’u boncyffion na’u canghennau. 

Byddai canfyddiadau astudiaethau Callum yn galluogi tyfwyr i ddethol amrywiaethau â mwy o flodau boncyff, a fyddai’n gwella’r cnwd cacao a chynhyrchiant siocled.

Breuddwyd Callum yw astudio ar gyfer PhD mewn gwyddor cnydau, a’r ddelfryd fyddai gweithio gyda chnwd trofannol.

Meddai: “Bydd y Wobr yn fy ngalluogi i deithio i Brifysgol India’r Gorllewin, Trinidad, i wneud gwaith ymchwil ymarferol gan ddefnyddio un o’r casgliadau helaethaf yn y byd o’r cnwd rhyngwladol bwysig cacao.

Rwy’n gobeithio y bydd y profiad a ddaw yn sgil y cyfle unigryw hwn o gymorth i ddatblygu fy hyder a’m sgiliau ymchwil yn ogystal â’m helpu i ddod i’r brig wrth wneud cais am astudiaethau uwchraddedig yn y dyfodol.” 

Dywedodd Yr Athro John Warren, sydd hefyd yn Gyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu yn IBERS: “Mae ennill gwobr y Gymdeithas Amaethyddiaeth Drofannol yn gyfle gwych i Callum. Mae’n rhoi’r cyfle iddo gael profiad gwerthfawr o weithio yn y Banc Genynnau Rhyngwladol, gan wneud gwaith gwyddonol a allai fod yn bwysig a chael hwyl ar yr un pryd.”

Pan fydd yn dychwelyd o India’r Gorllewin, bydd Callum yn dechrau interniaeth haf am saith wythnos yn gweithio gyda’r Athro John Doonan yng Nghanolfan Ffenomeg Planhigion Genedlaethol IBERS. Sicrhaodd arian ar gyfer hyn drwy Gymdeithas Bioleg Celloedd Prydain (BSCB).

Bydd y prosiect hwn yn anelu at drosglwyddo’r defnydd o dechnoleg sganiwr CT o ymchwil feddygol i fyd gwyddor planhigion.

I gloi, dywedodd Callum: “Ni fyddwn wedi llwyddo i ennill y gwobrau hyn heb gefnogaeth ac anogaeth barhaus llawer o aelodau staff IBERS. Hoffwn ddiolch i’r Gymdeithas Amaethyddiaeth Drofannol a’r BBSRC am eu haelioni a’u cefnogaeth.”

IBERS
Cydnabyddir yr Athrofa Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) yn rhyngwladol fel canolfan ymchwil ac addysgu sy’n cynnig sylfaen unigryw ar gyfer ymchwil mewn ymateb i heriau byd-eang fel diogelwch bwyd, bioynni a chynaladwyedd, ac effeithiau newid yn yr hinsawdd. Mae gwyddonwyr IBERS yn cynnal ymchwil sylfaenol, strategol a chymhwysol o lefel genynnau a moleciwlau i organebau a’r amgylchedd.

Mae IBERS yn derbyn £10.5m o gyllid ymchwil strategol gan y BBSRC i gefnogi ymchwil tymor hir sy’n cael ei arwain gan genhadaeth, ac mae’n aelod o’r Athrofeydd Biowyddoniaeth Cenedlaethol. Mae IBERS hefyd yn derbyn cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru, DEFRA a’r Undeb Ewropeaidd.

AU20815