Arddangosfa ar Ddiflaniad Rhewlifoedd Everest yng ngŵyl Gwyddoniaeth Haf y Gymdeithas Frenhinol

24 Mehefin 2015

Bydd rhewlifegwyr o Brifysgol Aberystwyth yn ymuno â chydweithwyr o Brifysgolion Sheffield, Leeds, Northumbria a Hertfordshire i arddangos eu hymchwil yn Arddangosfa Gwyddoniaeth Haf 2015 y Gymdeithas Frenhinol yn Llundain o 30 Mehefin i 5 Gorffennaf.

Mae’r tîm wedi datblygu arddangosfa sydd yn canolbwyntio ar y modd mae’r rhewlifoedd o amgylch mynydd uchaf y byd (Everest, 8848m) yn crebachu ar gyflym iawn.

Wrth ddefnyddio ffotograffau trawiadol, lluniau fideo o deithiau i rewlifoedd Khumbu, Imja, Lhotse a Ngozumpa yn Nepal, wedi eu cyfuno gydag arbrofion ymarferol yn defnyddio blociau o iâ a modelau 3-D, bydd y tîm yn esbonio sut mae rhewlifoedd yn yr Himalaya yn ymateb i newid hinsawdd ac yr arwyddocâd ar gyfer dynoliaeth. 

Mae’r tîm o 16 yn gymysgedd o staff academaidd, myfyrwyr ôl-raddedig a mynyddwyr, sydd oll yn rhannu diddordeb mewn cyflwr a thynged rhewlifoedd yn yr Himalaya.  Arweinir y tîm gan Dr Ann Rowan o Brifysgol Leeds, oedd gynt yn gymrawd ymchwil ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Aberystwyth a oedd wedi ei hariannu gan Gonsortiwm Newid Hinsawdd Cymru (C3W).

Yn ymuno â hi fydd yr Athro Neil Glasser, yr Athro Michael Hambrey, Dr Tristram Irvine-Fynn a Morgan Gibson o Ganolfan Rhewlifeg Prifysgol Aberystwyth.  Mae aelodau eraill o'r tîm sydd â chysylltiad â’r Ganolfan Rhewlifeg yn cynnwys:  Dr Duncan Quincey (cyn fyfyriwr PhD a darlithydd), Owen King (cyn fyfyriwr Meistr), y ddau bellach ym Mhrifysgol Leeds, a Dr Matt Westoby (cyn fyfyriwr PhD) o Brifysgol Northumbria.

Hefyd yn ymuno â’r tîm mae’r mynyddwr a gwneuthurwr ffilmiau enwog Americanaidd David Breashears o Glacierworks, sydd wedi cyrraedd copa Everest bedair gwaith, a Mollie Hughes, sydd ymysg y mynyddwyr ieuengaf o Brydain i gyrraedd man uchaf y byd.

Dywedodd yr Athro Hambrey:  “Mae ein gwaith maes ar rewlif Khumbu 12 mlynedd yn ôl, a gwaith maes pellach gan ein myfyrwyr ôl-raddedig, wedi ei gyfuno â’r dadansoddiad o ddelweddau lloeren, yn dangos yn glir bod y rhewlif hwn a’r rhai cyfagos yn diflannu’n gyflym.  Mae hyn yn digwydd mewn modd sydd yn galluogi i lynnoedd rhewlifol peryglus ddatblygu.  Hefyd, mae’r daeargrynfeydd diweddar yn amlygu pa mor agored i niwed yw pobl Nepal i’r bygythiad o dirlithriadau.  Mae rhewlifoedd yr Himalaya yn ffynhonnell ddŵr i 1.3 biliwn o bobl Asia, felly maent yn adnodd hanfodol sydd yn lleihau’n gyflym.  Rydyn ni eisiau darganfod pam mae’r rhewlifoedd yn ymateb mor gyflym i newid hinsawdd, a chael gafael ar ddata gwell fel y gallwn ragweld y newidiadau yn fwy cywir.”

Bydd y tîm yn diweddaru ymwelwyr i’r arddangosfa ar newyddion am rewlifoedd o amgylch Everest a sut mae’r gwaith ymchwil yn symud ymlaen.  Maent yn rhoi manylion ar amserau digwyddiadau arbennig, a pryd gall ymwelwyr gwrdd â’r mynyddwyr enwog, David a Mollie, ar Twitter (@EverestRSSSE) a Facebook (facebook.com/EverestRSSSE).

Mae’r tîm wedi cynhyrchu fideo byr, sy’n cynnwys Neil Glasser, Tris Irvine-Fynn a Morgan Gibson ar YouTube, i esbonio pwrpas yr ymchwil, https://www.youtube.com/watch?v=k9WOV1gK0LU.

Hefyd, mae cyfres o tua 100 o ffotograffau ac esboniadau ar y wefan addysgol ‘Glaciers Online’, http://www.swisseduc.ch/glaciers/himalaya/khumbu/index-en.html

Noddir yr arddangosfa gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, Consortiwm Newid Hinsawdd Cymru, Cymdeithas Ymchwil Cyfnod y Cwaternaidd a’r pum Prifysgol sydd yn cymryd rhan.

Mae Arddangosfa Haf y Gymdeithas Frenhinol yn ŵyl wyddoniaeth wythnos o hyd sydd yn cynnwys 22 o arddangosfeydd arloesedd Prydeinig.  Gall ymwelwyr gwrdd â gwyddonwyr sy’n arloesi ym meysydd gwyddoniaeth a thechnoleg, ac yn astudio popeth o gelloedd cancer i rocedi plasma, heb sôn am rewlifoedd.  Cynhelir yr arddangosfa o ddydd Mawrth 30 Mehefin tan ddydd Sul 5ed o Orffennaf ac mae mynediad yn rhad ac am ddim i ymwelwyr o bob oedran.  Am fwy o wybodaeth, ewch i’r wefan.

I wybod mwy am Arddangosfa Gwyddoniaeth Haf y Gymdeithas Frenhinol cysylltwch â Nicola Kane o swyddfa’r wasg y Gymdeithas Frenhinol ar 0207 451 2508 neu nicola.kane@royalsociety.org.

 

Cynhelir rhagolwg i’r wasg ar ddydd Llun 29 Mehefin 2015.

 

Amserau agor yr Arddangosfa Gwyddoniaeth Haf:  Lleolir yr arddangosfa yn y Gymdeithas Frenhinol, 6-9 Carlton House Terrace, London, SW1Y 5AG o ddydd Mawrth 30 Mehefin i ddydd Sul 5 Gorffennaf 2015.  Ar agor dydd Mawrth 30 Mehefin 10yb – 9yh; dydd Mercher 1 Gorffennaf 10yb – 5yh; dydd Iau 2 Gorffennaf 10yb – 5yh; dydd Gwener 3 Gorffennaf 10yb – 8yh; dydd Sadwrn 4 Gorffennaf 10yb – 6yh; dydd Sul 5 Gorffennaf 10yb – 6yh.  Noder:  Mae mynediad olaf 30 munud cyn amser cau.  Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim ac ar agor i’r cyhoedd.  Gweler gwybodaeth bellach ar:  http://sse.royalsociety.org/2015.

Twitter Hashtag: #summerscience

 

Mae’r Gymdeithas Frenhinol yn gymrodoriaeth hunanlywodraethol o nifer o wyddonwyr mwyaf nodedig y byd, o bob rhan o wyddoniaeth, peirianneg a meddygaeth.  Pwrpas sylfaenol y Gymdeithas, sydd yn adlewyrchu ei siarteri sefydledig o’r 1660au, yw adnabod, hyrwyddo, a chefnogi rhagoriaeth mewn gwyddoniaeth ac i annog y datblygiad a defnydd o wyddoniaeth er budd dynoliaeth.

 

Blaenoriaethau strategol y Gymdeithas yw:  Hyrwyddo gwyddoniaeth a’i fuddioldeb; Adnabod rhagoriaeth mewn gwyddoniaeth; Cefnogi gwyddoniaeth eithriadol; Darparu cyngor gwyddonol ar gyfer polisi; Annog cydweithrediad rhyngwladol a byd-eang; Addysgu ac ymgysylltu â'r cyhoedd.

AU6015