Etholiad Cyffredinol 2015 – Beth ddigwyddodd?

16 Mehefin 2015

Mae Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth, ar y cyd ag WISERD, Sefydliad Cymdeithasol a Ymchwil Economaidd, Data a Dulliau Cymru yn cynnal seminar ar Iau 18 Mehefin am 5yh yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn dwyn y teitl, The 2015 General Election: What Happened?

Y prif siaradwr fydd yr Athro Roger Scully o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd. Mae gan yr Athro Scully gysylltiadau cryf â Phrifysgol Aberystwyth, ar ôl gweithio yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol am dros ddeng mlynedd, ac mae'n un o'r arbenigwyr academaidd blaenllaw ar etholiadau a pleidleisio.

Wrth siarad cyn y digwyddiad, esboniodd Dr Anwen Alias, Cyfarwyddwr presennol Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth a chadeirydd y noson "Rydym i gyd yn edrych ymlaen at groesawu Athro Roger Scully yn ôl i Aberystwyth ac i'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, ac yn arbennig i glywed ei ddadansoddiad o'r hyn a ddigwyddodd yn yr Etholiad Cyffredinol diwethaf. Pam oedd y canlyniadau hyd yn syndod, a sut gafodd y polau piniwn y canlyniad mor anghywir?"

Bydd y seminar yn cael ei chynnal ym Mhrif Neuadd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ar Gampws Penglais. Mae'r digwyddiad hwn yn agored i bawb - i gofrestru i fynychu, anfonwch e-bost at: sgc.iwp@aber.ac.uk

AU19815