Ethol deuddeg o gynfyfyrwyr Aberystwyth i San Steffan

09 Mehefin 2015

Mae deuddeg o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth wedi eu hethol i Dŷ'r Cyffredin yn San Steffan yn dilyn Etholiad Cyffredinol 2015.

Etholwyd tri aelod newydd Mike Wood AS, Will Quince AS, a Liz Saville-Roberts AS, tra bod Guto Bebb AS, Rehman Chishti AS, Glyn Davies AS, yr Arglwyddes Sylvia Hermon AS, Dan Jarvis AS, Cyrnol Bob Stewart AS, Gareth Thomas AS, Mark Williams AS a Jonathan Edwards yn dychwelyd i San Steffan.

Meddai’r Is-Ganghellor April McMahon "Hoffwn longyfarch pob un o'n cyn-fyfyrwyr sydd newydd eu hethol i San Steffan. Rydym yn falch iawn bod ein traddodiad nodedig o gynrychiolaeth yn San Steffan yn parhau."

Guto Bebb AS

Graddiodd Guto o Aberystwyth yn 1990 gyda BA mewn Hanes. Cafodd ei ethol i'r Senedd yn 2010 ar ôl ennill sedd Aberconwy dros y Blaid Geidwadol. Cynyddodd ei fwyafrif yn 2015 i 3999.

Rehman Chishti AS

Astudiodd yr Aelod Seneddol Ceidwadol Rehman Chishti y Gyfraith yn Aberystwyth, gan raddio yn 2000. Yn enedigol o Muzaffarabad, Kashmir Pacistanaidd yn 1978, enillodd sedd Gillingham a Rainham oddi wrth y Blaid Lafur yn 2010. Yn yr etholiad diweddar cynyddodd ei fwyafrif i 10,530.

Glyn Davies AS

Ar hyn o bryd mae’r Cyn-aelod Cynulliad Cymru Glyn Davies yn gwasanaethu fel Aelod Seneddol dros Sir Drefaldwyn am yr ail dymor, ar ôl iddo ennill y sedd yn 2010. Mynychodd Glyn Brifysgol Aberystwyth yn 50 oed, gan ennill diploma mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym 1995.

Jonathan Edwards AS

Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, graddiodd Jonathan Edwards o Brifysgol Aberystwyth yn 1999 gyda gradd mewn Gwleidyddiaeth a Hanes. Mae wedi bod yn Aelod Seneddol dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr ers 2010.

Arglwyddes Sylvia Hermon AS

Yn Aelod Seneddol Annibynnol, etholwyd yr Arglwyddes Sylvia Hermon i sedd North Down yng Ngogledd Iwerddon fel aelod o Blaid Unoliaethwyr Ulster yn 2001. Graddiodd o Adran y Gyfraith yn 1977.

Dan Jarvis AS

Mae Dan Jarvis yn Aelod Seneddol Llafur dros Ganol Barnsley. Graddiodd o Brifysgol Aberystwyth yn 1996 gyda gradd mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol ac Astudiaethau Strategol. Yn ddiweddarach ymunodd â'r fyddin lle gwasanaethodd yn Kosovo, Irac ac Affganistan.

Will Quince MP

Wnaeth y AS Ceidwadol sydd newydd ei ethol  am Colchester  Will Quince graddio o Aberystwyth yn 2005 ar ôl astudio Cyfraith. Ar hyn o bryd mae e arno'r Pwyllgor Trafnidiaeth y Tŷ’r Cyffredin.

Liz Saville-Roberts AS

Mae Liz Saville Roberts yn dal sedd Dwyfor Meirionnydd ar ôl i’w ragflaenydd Elfyn Llwyd roi’r gorau iddi yn etholiad 2015. Yn wreiddiol o Eltham, Llundain, symudodd i Aberystwyth yn 18 oed i astudio ieithoedd, gan raddio mewn Astudiaethau Celtaidd yn 1987.

Cyrnol Bob Stewart AS

Graddiodd y Cyrnol Bob Stewart o Aberystwyth yn 1977 gyda gradd mewn-swydd mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Yn ystod ei yrfa filwrol o 27 o flynyddoedd  bu'n gwasanaethu yn Bosnia a Gogledd Iwerddon, cyn ennill y sedd dros Beckhenham yn 2010.

Gareth Thomas AS

Yn Gyn-weinidog Gwladol dros yr Adran Datblygu Rhyngwladol, enillodd Gareth Thomas ei sedd dros Orllewin Harrow ar ran y Blaid Lafur am yr eildro yn 2015. Graddiodd yn 1988 gyda BSc mewn Gwleidyddiaeth o Brifysgol Aberystwyth. Mae Gareth hefyd yn gadeirydd y Blaid Gydweithredol.

Mark Williams AS

Yn Aelod Seneddol dros etholaeth Ceredigion, ymunodd Mark Williams â Phrifysgol Aberystwyth yn 1984, i astudio gwleidyddiaeth. Ar ôl cyfnod fel athro ysgol gynradd, daeth yn Aelod Seneddol yn 2005 ar ôl adennill Ceredigion dros y Democratiaid Rhyddfrydol.

Mike Wood AS

Enillodd Mike Wood sedd De Dudley dros y Blaid Geidwadol yn etholiad 2015, ar ôl i Chris Kelly roi’r gorau i’r sedd. Mynychodd Mike Brifysgol Aberystwyth gan raddio mewn Economeg a'r Gyfraith yn 1997. Bu’n gynghorydd ar Gyngor Bwrdeistref Metropolitan Dudley yn gorffennol.