Cwrs ôl-radd newydd sgiliau Hwyluso
Eirwen Williams a Wyn Owen o Menter a Busnes, yr Athro Andy Henley a Non Lavaro o Brifysgol Aberystwyth a'r 12 myfyrwiwr ar ddiwrnod cyntaf cyflwyno’r cwrs.
01 Mehefin 2015
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi lansio cwrs hyfforddi lefel ôl-radd newydd mewn Sgiliau Hwyluso mewn partneriaeth â Menter a Busnes. Croesawyd y garfan gyntaf o 12 aelod staff Menter a Busnes yn Aberystwyth ym mis Ebrill.
Mae'r modiwl, Hwyluso ar gyfer Arweinyddiaeth Sefydliadol, sydd wedi ei achredu ar lefel 7, yn gwrs rhyngweithiol yn seiliedig ar sgiliau a thechnegau hwyluso ymarferol. Bydd cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus yn rhoi hawl i 20 credyd ar lefel 7.
Mae pob un o'r 12 myfyriwr wedi cofrestru ar y cwrs ôl-radd yn yr Ysgol Rheolaeth a Busnes ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae'r holl gredydau yn drosglwyddadwy ac yn rhoi cyfle i’r myfyrwyr ddilyn rhaglenni ôl-raddedig pellach ym Mhrifysgol Aberystwyth yn y dyfodol.
Meddai’r Athro Andy Henley, Cyfarwyddwr yr Athrofa Rheolaeth, y Gyfraith a Gwybodaeth Gwyddoniaeth yn y Brifysgol; "Rydym wrth ein bodd ein bod yn gweithio mewn partneriaeth â Menter a Busnes i gefnogi ei gwaith gyda busnesau a sefydliadau lleol. Mae hon yn fenter gyffrous a fydd yn golygu manteision uniongyrchol i'r economi leol drwy godi ein gallu i gefnogi mentrau i ddatblygu eu sgiliau arwain a photensial."
Ychwanegodd Wyn Owen, Ymgysylltydd gyda Menter a Busnes ac Arweinydd y Modiwl; "Rydym yn hynod gyffrous am y fenter newydd hon mewn partneriaeth â Phrifysgol Aberystwyth. Mae hi wedi cymryd llawer o waith caled, ymrwymiad ac amser gan y ddau bartner i gyrraedd fan hyn ac mae’r potensial i ymestyn yn enfawr. Rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu yn y dyfodol ac rydym eisoes yn gweithio ar ail fodiwl mewn hyfforddi a mentora "