App-a-thon: Ymgais Record y Byd Guinness
Dr Hannah Dee, a fydd yn arwain y digwyddiad yn Aber, gyda’r ap Android
18 Mai 2015
Bydd Prifysgol Aberystwyth, mewn partneriaeth â BCS yn cymryd rhan yn App-a-thon, ymgais Record y Byd Guinness, ar ddydd Sadwrn 13 Mehefin, 2015.
Cynhelir yr App-a-thon ym Mhrifysgol Aberystwyth fel rhan o ymgais Record y Byd Guinness am y nifer fwyaf o bobl yn dysgu cod app Android ar yr un pryd. Bydd yr ymgais record yn Aberystwyth yn un o dros 30 o ddigwyddiad ar draws y Deyrnas Gyfunol gan BCSWomen, rhan o BCS, y Sefydliad Siartredig ar gyfer TG
Bydd yr App-a-thon hwyliog a rhyngweithiol yn rhoi cyfle i unigolion a theuluoedd i adeiladu apps rhyngweithiol syml gan eu rhedeg a’u gosod ar eu ffonau neu dabledi Android eu hunain. Bydd y cyfranogwyr yn gadael ar ddiwedd y dydd gyda apps maen nhw wedi adeiladu, a’r feddalwedd maen nhw wedi gosod ar eu gliniaduron eu hunain i'w defnyddio ar ôl y digwyddiad.
Dr Hannah Dee, Uwch Ddarlithydd yn yr Adran Gyfrifiadureg ym Mhrifysgol Aberystwyth ac aelod o BCSWomen, sy’n arwain y digwyddiad yn Aberystwyth ac a fydd yn dysgu cyfranogwyr sut i adeiladu apps Android gan ddefnyddio'r meddalwedd MIT AppInventor.
Meddai Hannah: "Ysgrifennais y gweithdy rhaglennu i helpu plant a rhieni i ddysgu cod, ac dw i wrth fy modd bod BCSWomen wedi dewis i redeg hyn mewn lleoliadau ar draws y Deyrnas Gyfunol ar gyfer y ymgais Record y Byd Guinness. Dw i hefyd yn edrych ymlaen at gynnal y gweithdy ar safle Prifysgol Aberystwyth. "
"Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol i gymryd rhan yn y diwrnod -. byddwn yn cyfuno cymysgedd o sgyrsiau, a gweithgareddau codio ymarferol, a bydd pawb wedi ysgrifennu app syml erbyn diwedd" ychwanegodd Hannah. "Os oes gennych liniadur - Windows, Mac neu Linux - gallwch redeg y feddalwedd syml ar y we. Mae'n helpu i gael ffôn neu dabled Android i brofi eich gwaith cod, ond mae efelychydd ar-lein felly hyd yn oed os nad oes gennych ddyfais Android, gallwch roi cynnig arni. "
Meddai Gillian Arnold, Cadeirydd BCSWomen: "O fewn y proffesiwn TG, mae prinder sgiliau go iawn yn y Deyrnas Gyfunol ac mae angen inni fynd i'r afael gyda hynny nawr. Mae digwyddiad App-a-thon BCSWomen yn ffordd wych i lawer o bobl ddysgu sut i wneud cod ar yr un pryd, ymgysylltu â'r rhai sy'n ystyried gyrfa mewn TG ac yn gyfle i bob cenhedlaeth roi cynnig ar godio "
Nod y digwyddiad yw torri'r record, ond hefyd i annog pobl ifanc, yn enwedig merched, i ystyried gyrfa ym maes TG. Canfu arolwg diweddar BCS o weithwyr proffesiynol TG bod 79% yn credu y byddai’r proffesiwn yn elwa o gael mwy o fenywod yn gweithio ynddo. Ar hyn o bryd, mae menywod yn cyfrif am ddim ond 16% o weithwyr proffesiynol TG; ffigur sydd wedi gostwng yn sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf.
Mae'r digwyddiad yn agored i bawb, yn unigolion a theuluoedd. Ceir mwy o wybodaeth i rieni a gwarcheidwaid ar wefan BCS, http://www.bcs.org/content/ConWebDoc/54581.
Bydd y digwyddiad App-a-thon BCSWomen yn digwydd yn yr ystafell gynhadledd Medrus, Penbryn, ar Gampws Penglais yn Aberystwyth ar ddydd Sadwrn 13 Mehefin, 2015, o 10yb. Am wybodaeth bellach ac i gadw eich lle yn y digwyddiad rhad ac am ddim hwn, ewch i: http://www.bcs.org/content/ConWebDoc/54581