Ail ystyried Y Wladfa: Ymchwil ar y Cymry ym Mhatagonia
Dr Lucy Taylor
14 Mai 2015
Ymchwil newydd yn datgelu bod sefydlu’r Wladfa yn 1865 yn rhan annatod o wead cymhleth deinameg grym, arian a syniadau byd eang
Tan nawr, mae’r hanes am sefydlu’r Wladfa wedi canolbwyntio ar fywydau’r Cymry yn bennaf.
Ond mae ymchwil newydd gan Dr Lucy Taylor o Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth, i'r Cymry, y brodorion a’r Archentwyr y daethant ar eu traws, yn cynnig persbectif newydd sy'n herio llawer o dybiaethau.
Yn rhifyn mis Mai o Planet - The Welsh Internationalist, mae Dr Taylor yn gosod Y Wladfa o fewn cyd-destun adeiladu cenedl yr Ariannin a’r gymdeithas gynhenid, ac felly yn dangos sut mae’r gymuned hon o Gymry yn rhan annatod o wëad cymhleth deinameg grym, arian a syniadau a oedd yn ffurfio Cymru, Patagonia a’r byd.
Ar sail dyddiaduron, cofiannau a phapurau newydd, mae ymchwil Dr Taylor yn canolbwyntio ar y berthynas rhwng y gwladychwyr Cymreig a'r bobl frodorol, perchnogion y tir lle’r aeth y Cymry i ymsefydlu.
“Yr hyn a geir yw darlun cymhleth o bobl fregus, o ddibyniaeth, masnach, parch a chyfeillgarwch”, meddai Dr Taylor, “ond wedi eu gosod o fewn ideolegau dominyddol y bedwaredd ganrif ar bymtheg; imperialaeth a rhagoriaeth hiliol.”
“Yn hynny o beth, tra bod y Cymry yn ddarostyngedig i imperialaeth yn ôl adref yng Nghymru lle’r oedd yr iaith a’r diwylliant yn cael eu dilorni, roeddent yn asiantiaid dros wladychu yn yr Ariannin.
“Roedd hyn oherwydd bod gwladwriaeth yr Ariannin yn hyrwyddo gwladychu gan y Cymry er mwyn ysgubo ymaith y bobl frodorol a phlannu ymsefydlwyr Ewropeaidd yn eu lle.
“Mae'r sefyllfa baradocsaidd hon (darostyngedig ar y naill llaw, a gwladychwyr ar y llall) yn herio rhagdybiaethau hawdd a stereoteipiau syml.
“Mae'n ein gwahodd i feddwl mewn ffyrdd newydd a mwy cymhleth am Y Wladfa, ac i ddeall gwir gymhlethdod sefyllfa Cymru yng ngwleidyddiaeth fyd-eang y bedwaredd ganrif ar bymtheg.”
Cyhoeddir Rethinking Patagonian Wales gan Dr Lucy Taylor yn rhifyn mis Mai o Planet - The Welsh Internationalist.
Bydd Dr Taylor yn trafod ei hymchwil yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar ddydd Iau 6 Awst.
Mae hi hefyd yn cyd-drefnu digwyddiad cyhoeddus a chynhadledd '150 mlynedd y Cymry yn y Wladfa: Myfyrdodau a Gwaddol', gyda Hywel Griffiths (Yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear) a fydd yn cael ei gynnal ar 6 Mehefin ym Mhrifysgol Aberystwyth (Prif Neuadd , Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol), rhwng 9.15 y bore a 4 y prynhawn.
Mae Dr Lucy Taylor yn arbenigwr ar America-Ladin, ac ar agweddau ôl-drefedigaethol tuag at ddinasyddiaeth, gan ganolbwyntio yn benodol ar yr Ariannin. Mae hi'n weithgar iawn ym maes astudiaethau America Ladin yn y Deyrnas Gyfunol a bu’n Llywydd Cymdeithas Astudiaethau America Ladin (2011-13) y gymdeithas academaidd fwyaf yn Ewrop i academyddion sy’n astudio America Ladin. Mae Lucy yn gyd-olygydd ar y bwletin mawr ei fri, Bulletin of Latin American Research ac yn aelod o Banel America Ladin a’r Caribî yr Academi Brydeinig.