Cynfyfyriwr o Aber ar raglen wyddoniaeth S4C

Dr Llion Evans

Dr Llion Evans

11 Mai 2015

Bydd y cynfyfriwr o Aberystwyth, Dr Llion Evans, yn ymddangos ar raglen wyddoniaeth S4CDibendraw, nos fory, 12 Mai.

Graddiodd Llion yn 2005 gyda BSc mewn Ffiseg.

Bydd y rhaglen yn trafod ei waith fel cymrawd ymchwil yng Nghanolfan Culham ar gyfer ynni ymasiad (nuclear fusion),  CCFE.

Meddai Llion: "Mae ynni ymasiad  yn debyg i greu seren fach ar y Ddaear ac mae ganddo'r potensial i helpu datrys argyfwng ynni’r Byd . Ar hyn o bryd, mae adweithydd ymasiad mwyaf y byd, JET yn y Ganolfan ac rydym yn cyfrannu at yr ymdrech ymasiad byd-eang. Y cam nesaf fydd yn ITER, yn ne Ffrainc.

Bydd y rhaglen gyntaf yn y gyfres yn dangos fi wrth fy ngwaith yn CCFE, a dw i’n teimlo bod fy amser fel myfyriwr yn Aberystwyth wedi chwarae rhan bwysig yn fy ngyrfa."

Mae'r gyfres Dibendraw yn cwmpasu datblygiadau gwyddonol sy'n siapio'r byd rydym yn byw ynddo ac yn edrych ar y cyfraniad mae gwyddonwyr o Gymru yn yr ymdrechion hyn.

Mae Ffiseg ymhlith y pynciau cyntaf a ddysgwyd yn Aberystwyth ym 1872 ac mae’r adran bellach yn gartref i dros 300 o fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig. Mae'r adran yn gweithio’n agos gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac mae ganddi rôl arweiniol yn natblygiad y ddarpariaeth Ffiseg drwy'r Gymraeg.

Darlledir y rhaglen ar 12 Mai am 9.30yh ar S4C a bydd hefyd ar gael ar Clic ac iPlayer.