Argyfwng bwyd
Yr Athro Emeritws Howard Thomas, Dr Jayne Archer ac Yr Athro Richard Marggraf Turley
19 Tachwedd 2014
Cyhoeddir Food and the Literary Imagination, cyfrol ryngddisgyblaethol gan academyddion o Brifysgol Aberystwyth sy'n gwneud sylw crafog ar wleidyddiaeth bwyd gyfoes, ar ddydd Mercher 19 Tachwedd.
Yn sgil eu gwaith dadleuol ar Shakespeare a Keats, a ddenodd sylw rhyngwladol yn y wasg yn 2012 a 2013, mae’r Athro Richard Marggraf Turley o Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, yr Athro Emeritws Howard Thomas o Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig a Dr Jayne Archer, cyn-ddarlithydd yn yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, wedi cwblhau ymchwil sydd yr un modd arloesol ar Chaucer, George Eliot ac argyfwng bwyd yr unfed ganrif ar hugain.
Yn y llyfr, maent yn dangos bod Terfysgoedd Llundain 2012 wedi dechrau, nid fel lladrad nwyddau a trainers wedi’u brandio, ond fel terfysg bwyd traddodiadol.
Mae’r gyfrol newydd hon yn cyfuno’r ymchwil hwn.
Ddechreuodd y cydweithio rhyngddynt chwe blynedd yn ôl yn dilyn cyfarfod siawns rhwng Howard a Richard ar sioe radio am gerddoriaeth.
Fel rhan o'u hymchwil i King Lear Shakespeare yn 2013, cawsant sylw rhyngwladol am eu gwaith ar honiadau bod Shakespeare yn cronni grawn ac yn osgoi talu treth - yn Chwefror 1598 cafodd y Bardd ei erlyn am guddio grawn yn ystod argyfwng bwyd.
Ysgrifennodd Shakespeare y ddrama Coriolanus am newyn a grëwyd gan fasnachwyr cyfoethog a gwleidyddion er mwyn elwa ar bris bwyd. Gellir dehongli’r ddrama mewn ffordd wahanol yn sgil ymchwil y tri.
Mae'r gyfrol newydd hefyd yn trafod y bardd Rhamantaidd John Keats. Maent yn datgelu bod y cae o y'd a ysbrydolodd ei awdl enwog 'To Autumn' bellach o dan faes parcio St Giles’s Hill, yn groes i gredoau traddodiadol ei fod wedi ei leoli ar hyd llifddolydd hardd winc hester (sydd yn dal i gael eu cynnwys yn y daith am John Keats o amgylch y ddinas).
Rhoddir sylw hefyd i’r melinau dwr sydd yng nghlasur Geoffrey Chaucer Canterbury Tales a The Mill on the Floss gan George Eliot. Mae'r ymchwilwyr yn datgelu mewn ffyrdd hollol newydd bwysigrwydd bwyd mewn llenyddiaeth, a sut y mae ein syniadau am fwyd a’r modd y mae’n cael ei ddosbarthu yn cael eu llywodraethu gan gynrychiolaeth lenyddol.
Dywedodd Richard; “Mae’r bartneriaeth hon wedi bod yn un drawsnewidiol, yn ogystal â bod yn un o gydweithio adeiladol. Cafodd y ffyrdd yr ydym yn edrych ar ddiogelwch bwyd eu newid a’u trawsnewid oherwydd ein cyfuniad annhebygol o arbenigedd. Efallai na fydd wedi taro pobl, ond mae gan lenyddiaeth Saesneg a’r celfyddydau ran bwysig i'w chwarae o ran deall ac ymateb i faterion yn ymwneud â gwerthoedd, cyflenwad, tarddiad a dosbarthiad teg bwyd yn y Deyrnas Gyfunol.”
"Yr hyn mae ein llyfr yn dangos yw bod angen inni ailgalibreiddio yn radical ein syniadau o'r cae a bwyd, bod angen i ni ailgalibreiddio ein synnwyr o natur yr argyfwng bwyd presennol, a sut y gallem lunio a chydlynu ein hymatebion iddo, drwy edrych ar ymdrechion hanesyddol i brosesu argyfyngau tebyg o gynhaliaeth trwy lenyddiaeth. Nid ydym yn wynebu'r argyfwng presennol am y tro cyntaf, nac ar ein pennau ein hunain - mae rhai o'n prif lenorion eisoes wedi ystyried y broblem yn eu gweithiau gorau”.
Dywedodd Howard Thomas; “Mae ein llyfr newydd yn dangos y tir fel ffynhonnell bwyd ac fel ffynhonnell stori. Gallwn edrych ar y gorffennol, y presennol a'r dyfodol i weld lle'r ydym yn awr, yn ogystal â phwysigrwydd bwyd mewn diwylliant a hanes, ac yn gymdeithasol ac yn economaidd, fel rhan o ddeall effeithiau tarfu ar y gadwyn fwyd - yn enwedig gydag argyfwng bwyd y gorwel ".
Cyhoeddir Food and the Literary Imagination gan Palgrave Macmillan.