Aberystwyth yn cymryd rhan mewn ymgyrch arbed ynni
Diffoddwch eich cyfrifiadur fel rhan o gynllun Diffodd Popeth
11 Tachwedd 2014
Am yr ail flwyddyn, bydd Prifysgol Aberystwyth yn cymryd rhan yn y cynllun Diffodd Popeth ar ddydd Gwener 14 Tachwedd, ymgyrch arbed ynni sy’n cael ei redeg gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr sy'n anelu troi i ffwrdd holl offer swyddfa ddiangen dros benwythnos.
Mae'r Brifysgol wedi’i ymrwymo i leihau ei defnydd o ynni, mynd i'r afael â materion cynaliadwyedd ar draws y campysau ac yn anelu cynnwys gymaint o fyfyrwyr a staff ag sydd yn bosib.
Mae'r Hyfforddai Graddedig Amgylcheddol ym Mhrifysgol Aberystwyth, Christopher Woodfield, yn egluro, "Y llynedd, fe wnaeth staff a myfyrwyr y Brifysgol weithio’n ddi-dâl ar nos Wener i gymryd rhan yn y rhaglen a’r nod eleni yw cael mwy o bobl i gymryd rhan.
"Mae timau’n treulio'r noson yn cofnodi a diffodd offer nad ydynt yn hanfodol mewn adeiladau gyda'r nos, ar draws y Brifysgol. Mae hwn yn gyfle gwych i gwrdd â phobl newydd, cydweithio gydag unigolion o'r un anian, a helpu'r Brifysgol i wella ei berfformiad amgylcheddol.
"Ar ôl gwneud y gwaith yma, gall gwirfoddolwyr fwynhau swper am ddim a siwmper Masnach Deg."
Bydd y defnydd o ynni yn cael ei fonitro cyn ac ar ôl y digwyddiad i gyfrifo arbedion dros y penwythnos. Y llynedd, amcangyfrif fod gostyngiad o 50% yn y defnydd o drydan dros y penwythnos Diffodd Popeth.
Ychwanegodd Christopher, "Mae’r rhaglen yn tynnu sylw at yr effaith ariannol ac amgylcheddol sylweddol y gallwn ni i gyd ei gael ar y defnydd o ynni. Drwy ddiffodd ein cyfrifiaduron ac eitemau trydanol diangen eraill, gallai hyn leihau ein defnydd o ynni blynyddol o 10% ac arbed £128,000 y flwyddyn i’r Brifysgol.
"Bydd y camau syml hyn yn cyfrannu at weithio tuag at Strategaeth Rheoli Carbon y Brifysgol sy'n amlinellu gostyngiad carbon o 30% erbyn 2020.
"Mae canlyniadau o'r flwyddyn gyntaf yn dangos bod llawer o staff eisoes yn yr arfer o droi pethau i ffwrdd, ond mae gwastad mwy y gallwn ei wneud."
Adeilad Penbryn P5 llynedd oedd sail Diffodd Popeth yn Aberystwyth, ac eleni mae cynlluniau i gael mwy o adeiladau yn rhan o’r rhaglen gyda mwy o gyfranogiad gan staff a myfyrwyr.
Os hoffech chi gymryd rhan a gwirfoddoli ar y noson neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi, cysylltwch â Christopher Woodfield ar sustainability@aber.ac.uk neu cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad yma.
AU49014