Prifysgol Aberystwyth yn arwyddo cytundeb gydag Ysgol Repton, Dubai
Prifathro Ysgol Repton, Jonathan Hughes-D'Aeth a’r Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth yn lansio’r bartneriaeth newydd gydag Ysgol Repton yn Dubai.
10 Tachwedd 2014
Bydd Prifysgol Aberystwyth yn darparu ei Thystysgrif Sylfaen Ryngwladol blwyddyn fel rhan o bartneriaeth newydd gyda Ysgol Repton, Dubai, yn yr Emiraethau Arabaidd Unedig.
Cafodd y bartneriaeth ei lansio yn Dubai ar ddydd Iau 6 Tachwedd.
Drwy gwblhau'r Dystysgrif Sylfaen Rhyngwladol ynghyd â phrawf 'Saesneg ar gyfer Dibenion Academaidd' yn llwyddiannus, mae myfyrwyr sy'n mynychu Ysgol Repton yn medru sicrhau mynediad uniongyrchol i astudio rhaglenni israddedig ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Yn y lansiad dywedodd yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth; “Mae gan Brifysgol Aberystwyth hanes balch sy'n dyddio'n ôl i 1872 pan gafodd ei sefydlu gan bobl Cymru fel y brifysgol gyntaf yng Nghymru. Rydym yn parchu'r hanes hwnnw, ond yr ydym hefyd yn edrych i'r dyfodol ac ar weithgareddau rhyngwladol ac entrepreneuriaid pwysig. Bydd y bartneriaeth newydd hon gydag Ysgol Repton yn cynorthwyo i baratoi ein cenhedlaeth nesaf o fyfyrwyr i addasu i ddysgu addysg uwch, sy'n gallu bod yn wahanol iawn i'r amgylchedd yr ysgol.
“Rwy'n edrych ymlaen at weld datblygiad y rhaglen Tystysgrif Sylfaen Ryngwladol yma yn Dubai ac at groesawu myfyrwyr newydd i'n cymuned gyfeillgar yn y blynyddoedd i ddod.”
Dywedodd Jonathan Hughes-D'Aeth, Prifathro Ysgol Repton; “Mae'r cwrs yn rhoi cyfle gwirioneddol unigryw i'n myfyrwyr i gwblhau Cwrs Sylfaen Rhyngwladol a ddilysir gan brifysgol, wrth iddynt barhau gyda’u hastudiaethau yn yr ysgol.
“Nid oes unrhyw brifysgolion eraill o'r safon hwn yn cynorthwyo i baratoi pobl ifanc yn yr Emiraethau Arabaidd Unedig ar gyfer mynediad uniongyrchol i gyrsiau gradd mewn sefydliad academaidd uchel iawn ei barch.
“Gwir werth y cwrs yw y bydd yn addas ar gyfer pobl ifanc sy'n dymuno ennill sgiliau Saesneg academaidd sy'n ofynnol gan brifysgolion Prydeinig, tra'n parhau i astudio yn yr ysgol.”
Bydd y Dystysgrif Sylfaen Rhyngwladol, sy’n rhaglen blwyddyn, yn agored i fyfyrwyr o Ysgol Repton, ac yn cael ei darparu drwy fframwaith cydweithredol a ddilyswyd ac a gymeradwywyd, lle mae myfyrwyr yn cwblhau pynciau academaidd o fewn Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol yn ogystal â chyrsiau sy'n cynnwys Theori Gwybodaeth, Gweithredu a Gwasanaeth Cymunedol, a phrosiect ymchwil.
Bydd pob myfyriwr yn cael ei gofrestru gyda Phrifysgol Aberystwyth ar ddechrau'r cwrs, a leolir yn Ysgol Repton yn Dubai, a byddant yn derbyn arweiniad gan staff academaidd mewn perthynas â llwybrau gradd a chyrsiau addysg uwch addas.
Bydd staff addysgu o Aberystwyth yn ymweld ag Ysgol Repton drwy gydol y flwyddyn academaidd i safoni’r cwrs a'r rhaglen graidd, a chynnig cyngor ac arweiniad i ddysgwyr yn Dubai.
Bydd pob myfyriwr ar y cwrs yn ymweld ag Aberystwyth am o leiaf un wythnos yn ystod y camau cynnar, gyda myfyrwyr Repton yn cael eu cyflwyno i’w darpar adrannau academaidd, yn mynychu darlithoedd perthnasol a’u gefeillio â 'chyfaill' myfyrwyr ar gyfer eu hymweliad, er mwyn eu cynorthwyo i ddeall bywyd ar y campws ac yn y Brifysgol.
Mae lansiad y Cwrs Sylfaen Ryngwladol yn Ysgol Repton yn cyd-daro ag agor Swyddfa Dubai newydd Prifysgol Aberystwyth, sydd hefyd wedi ei lleoli yn Ysgol Repton.
Mae'r ddau yn adeiladu ar waith yr Athro Tim Woods, Cyfarwyddwr Sefydliad Addysg, Graddedigion a Datblygiad Proffesiynol, Ruth Owen Lewis, Cyfarwyddwr y Swyddfa Ryngwladol, Murtza Ali Ghaznavi, Rheolwr Dwyrian Canol, a Rachel Davey, Cyfarwyddwr y Ganolfan Saesneg Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth.
AU45614