Cyhoeddi enillwyr Aber Does Dragons’ Den

Dreigiau Aber yn paratoi ar gyfer ffilmio Aber Does Dragons’ Den

Dreigiau Aber yn paratoi ar gyfer ffilmio Aber Does Dragons’ Den

06 Tachwedd 2014

Bydd enillwyr cystadleuaeth Aber Does Dragons’ Den yn cael eu cyhoeddi nos yfory, nos Wener 7 Tachwedd, mewn dangosiad arbennig o’r rhaglen yng Nghanolfan Llanbadarn Ysgol Rheolaeth a Busnes Prifysgol Aberystwyth.

Yn ystod y mis diwethaf mae pum tîm o ddisgyblion blwyddyn 12 a 13 sy’n astudio ar gyfer Diploma Atodol Lefel 3 BTEC mewn Busnes yn Ysgol Penglais wedi bod yn datblygu eu cynigion busnes ac yn derbyn cyngor arbenigol ar gyflwyno syniadau, marchnata, cyllid ac eiddo deallusol gan fentoriaid o Brifysgol Aberystwyth.

Cyflwynodd y timau eu syniadau busnes gorffenedig i dîm o Ddreigiau Aber yn ystod diwrnod o recordio rhaglen Aber Does Dragons’ Den yn stiwdios teledu’r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu ar ddydd Gwener 24 Hydref.

Pum person busnes amlwg o ardal Aberystwyth oedd y Dreigiau: Greg Dash, entrepreneur camerau digiol a datblygodd y camera llygad pysgodyn digidol cyntaf yn y byd; Tony Bates, cyd-sylfaenydd cwmni cyfreithiol o Aberystwyth, Morris & Bates; Andrew Evans, artist lleol a pherchen busnes celf gain; Victoria Kearney, sydd â 25 mlynedd o brofiad o weithio yn y diwydiannau adeiladu, hamdden a manwerthu; a Gareth Lloyd Roberts, Cyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

Bydd y rhaglen orffenedig 45 munud yn cael ei dangos am y tro cyntaf yng Nghanolfan Llanbadarn am 7 yr hwyr, nos Wener 7 Tachwedd. Mynediad am ddim ac mae croeso i bawb.

Bydd aelodau o’r tîm buddugol yn ennill camera fideo llaw o’r math diweddaraf.

Crëwyd Aber Does Dragons’ Den gan yr Athro Brian Garrod o Ysgol Rheolaeth a Busnes Prifysgol Aberystwyth, ac mae e wedi sicrhau caniatâd y cwmni sy'n gyfrifol am gyfres boblogaidd y BBC ar gyfer y digwyddiad.

AriannwydAber Does Dragons’ Den fel rhan o Ŵyl Gwyddorau Cymdeithasol ESRC (1 - 8 Tachwedd).

Dilynwch Aber Does Dragons’ Den ar Twitter: #AberDragonsDen

AU40914