Cnwd yn ffynhonnell newydd o ynni

Miscanthus

Miscanthus

05 Tachwedd 2014

Mae’r cnwd ynni addawol Miscanthus yn cael ei wella drwy fridio mathau hybrid sy’n seiliedig ar hadau yn IBERS (Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig) ar y cyd â phartneriaid academaidd a masnachol yn y DG, yr UE ac UDA.

Mae Miscanthus, neu Glaswellt Eliffant Asiaidd, wedi cael ei fridio yng Ngogerddan ers 2004, ac yn laswellt lluosflwydd gyda chynnyrch egni uchel o’i gymharu â lefel mewnbwn, ac mae'n gnwd a allai fod yn ddeniadol i arallgyfeirio busnesau fferm yng Nghymru heddiw; gan gynyddu ynni adnewyddadwy heb danseilio diogelwch bwyd.

Nodwyd Miscanthus fel rhywogaeth cnwd ynni cryf tua 25 mlynedd yn ôl. Gan adeiladu ar dros 90 mlynedd o draddodiad bridio glaswellt yn Aberystwyth, mae degawd o waith ymchwil Miscanthus wedi arwain at ganlyniadau cyffrous.

Mae IBERS wedi adeiladu un o'r casgliadau plasm cenhedlu Miscanthus mwyaf y tu allan i Asia, a gyda phartneriaid mae wedi datblygu map genetig cynhwysfawr ac eglur iawn o'r cnwd ynni.

Dywedodd yr Athro Iain Donnison o IBERS; “Trwy ddiffinio'r amrywiaeth genetig yn ein casgliadau plasm cenhedlu, gallwn gyflwyno nodweddion cnwd pwysig yn gyflymach yn ein cynnyrch Miscanthus newydd sydd wedi eu tyfu o had”.

Dywedodd Dr John Clifton-Brown sy'n arwain y rhaglen fridio yn IBERS; “Mae’r mathau sydd wedi eu tyfu o had yn dangos potensial enfawr mewn treialon, ac mae disgwyl iddynt  gymryd lle planhigion cynharach sydd yn seiliedig ar groesiadau clôn ymhen tua 3 blynedd pan fyddant wedi eu gwerthuso'n llawn mewn gwahanol amgylcheddau gan dyfwyr”.

Mae IBERS yn cynnal Symposiwm a Saffari  Miscanthus 2014 yng Ngogerddan ar 25-26 Tachwedd.

Mae hwn yn gyfle i ffermwyr ac eraill sydd â diddordeb, i brofi degawd o ddatblygiadau mewn bridio Miscanthus yn IBERS, a bydd yn dwyn ynghyd arbenigedd perthnasol partneriaid academaidd a masnachol yn Ewrop, y DG ac UDA.

Bydd ymweliadau maes ar ddydd Mawrth 25 Tachwedd a chyflwyniad i ddilyn gan William Cracroft-Eley, Cadeirydd Terravesta Ltd am werth Miscanthus wrth arallgyfeirio busnes ffermio wrth fynd i'r afael ag amcanion byd-eang ar gynyddu ynni adnewyddadwy heb danseilio diogelwch bwyd.

IBERS
Mae Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) yn ganolfan ymchwil a dysgu a gydnabyddir yn rhyngwladol ac sydd yn darparu sylfaen unigryw ar gyfer ymchwil mewn ymateb i heriau byd-eang megis diogelwch bwyd, bio-ynni a chynaliadwyedd, ac effeithiau newid hinsawdd. Mae gwyddonwyr IBERS yn cynnal ymchwil sylfaenol, strategol a chymhwysol o enynnau a moleciwlau i organebau a’r amgylchedd.

Mae IBERS yn derbyn £10.5m o gyllid ymchwil gan y BBSRC i gefnogi ymchwil a yrrir gan genhadaeth tymor hir, ac mae’n aelod o Sefydliad Cenedlaethol y Biowyddorau. Mae IBERS yn elwa hefyd o gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru, DEFRA a’r Undeb Ewropeaidd.

AU47514