Gwobr Arian EcoCampus i Brifysgol Aberystwyth
Dathlu dyfarnu tystysgrif Arian EcoCampus; Ymgynghorydd Ynni Prifysgol Aberystwyth Janet Saunders (canol) â’i chydweithwyr Chris Woodfield (chwith) a James Pickerin.
04 Tachwedd 2014
Fel rhan o Gynllun Gwobrau Cenedlaethol EcoCampus, mae Prifysgol Aberystwyth wedi ennill tystysgrif Arian sydd yn cydnabod y gwaith sy'n cael ei wneud i wella cynaliadwyedd amgylcheddol ar ei champysau.
Mae EcoCampus yn system rheoli amgylcheddol a chynllun gwobrwyo ar draws y Deyrnas Gyfunol ar gyfer y sectorau addysg uwch a phellach.
Mae'r cynllun yn galluogi prifysgolion i adnabod, gwerthuso, rheoli a gwella eu perfformiad ac arferion amgylcheddol mewn gwahanol gyfnodau â’r nòd yw cyrraedd y safon ISO14001 Ewropeaidd.
Mae'r rhai sy'n cyflawni achrediad arian wedi dangos bod ganddynt bolisi amgylcheddol clir ac wedi dechrau gosod amcanion a thargedau ar gyfer gwelliant amgylcheddol.
Dywedodd Janet Sanders, Cynghorydd Ynni ym Mhrifysgol Aberystwyth; "Yma yn Aberystwyth rydym wedi ymrwymo i fod mor effeithiol â phosibl yn ein defnydd o ynni ac adnoddau naturiol er mwyn lleihau’r effaith ar yr amgylchedd
“Rydym wrth ein bodd o fod wedi ennill y dystysgrif Arian. Mae'r ffaith ein bod wedi derbyn yr Efydd yn ddiweddar, ym mis Mai eleni, hefyd yn dangos y cynnydd gwych yn y gwaith i wella perfformiad amgylcheddol y Brifysgol ac mae gennym nifer o fentrau allweddol wedi’u trefnu dros y misoedd nesaf.”
Mae'r system EcoCampus yn cwmpasu pob agwedd ar weithrediadau'r Brifysgol, gan gynnwys; rheoli gwastraff, y defnydd o ynni, effeithlonrwydd dŵr, prynu cynaliadwy, adeiladu ac adnewyddu, bioamrywiaeth, teithio a chyfranogiad cymunedol.
Yn dilyn y llwyddiant o gyflawni statws Arian, mae Prifysgol Aberystwyth bellach wedi cael ei chymeradwyo gan EcoCampus i symud ymlaen i statws Aur ac, yn y pen draw, Platinwm.
AU47314