Myfyrwraig Aberystwyth yn ennill Ysgoloriaeth Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Miriam Elin Jones

Miriam Elin Jones

15 Hydref 2014

Mae myfyrwraig o Brifysgol Aberystwyth wedi ennill Ysgoloriaeth Ymchwil Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i astudio doethuriaeth eleni. 

Astudiodd Miriam Elin Jones, sy’n wreiddiol o Lanpumsaint, radd mewn Cymraeg ac Astudiaethau Ffilm a Theledu yn Aberystwyth ynghyd ag MPhil yn y Gymraeg y tymor diwethaf. 

Testun ei doethuriaeth ydy ‘Ymchwil i Gymru Fydd: Y Dyfodol, y Gofod ac Angenfilod mewn Rhyddiaith Gymraeg.’

Bydd Miriam yn archwilio elfennau ffuglen wyddonol rhyddiaith Gymraeg gan ddechrau gyda chwedlau’r Mabinogi ac olrhain hanes y genre: dechreuir gyda phroto-ffuglen wyddonol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a thrafodir ei datblygiad yn ystod yr ugeinfed ganrif hyd heddiw. 

Dywedodd Miriam, “Mi fydd yr ysgoloriaeth hon yn fy ngalluogi i lewnu bwlch gan fod ffuglen wyddonol cyfrwng Cymraeg yn aml iawn yn cael ei anwybyddu. Ar hyn o bryd rwy’n canolbwyntio ar yr 20fed ganrif, ar rwy’n edrych ymlaen at weithio ar y Mabinogi. Rwyf hefyd yn gobeithio y bydd y gwaith yn cyfrannu at ehangu gorwelion llenyddiaeth Gymraeg yn gyffredinol gan fod tuedd iddi fod yn fwy traddodiadol.”

Daeth Miriam yn drydydd yng Nghystadleuath y Goron, Eisteddfod yr Urdd 2013 a 2014. Mae hefyd yn rhedeg gwefan yn Gymraeg ar lenyddiaeth / diwylliant ffuglen wyddonol yn gyffredinol: http://gwyddonias.wordpress.com 

AU19214