Diwygio’r byd addysg

Leighton Andrews AC, Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus

Leighton Andrews AC, Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus

14 Hydref 2014

Bydd Leighton Andrews AC, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, yn trafod nifer o benderfyniadau a diwygiadau allweddol a wnaed yn ystod ei gyfnod fel Gweinidog Addysg ym Mhrifysgol Aberystwyth ar ddydd Iau 16eg Hydref 2014.

Mae’r noson yn cydfynd â lansiad cyfrol newydd Leighton Andrews, Ministering to Education, a bydd yn sgwrsio gyda’r Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth.

Cynhelir y noson ym Mhrif Neuadd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol am 6.30 yr hwyr ac mae’n cael ei threfnu gan Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru gyda chefnogaeth y Sefydliad Materion Cymreig.

Cafodd Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru (SGC) ei sefydlu fel canolfan ymchwil o fewn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn 1997. Profodd yn fenter lwyddiannus dros ben. Bellach caiff SGC ei chydnabod fel canolfan ragoriaeth ar gyfer astudio gwleidyddiaeth Cymru ac fe’i hadnabyddir yn rhyngwladol fel canolfan ymchwil bwysig ar ranbartholdeb gwleidyddol a chenedlaetholdeb is-wladwriaeth.

AU42614