Cyn-fyfyriwr Aber ar restr fer Gwobr Genedlaethol Stori Fer y BBC 2014
Francesca Rhydderch
23 Medi 2014
Mae cyn-fyfyriwr Prifysgol Aberystwyth, Francesca Rhydderch, wedi’i gosod ar restr fer Gwobr Genedlaethol Stori Fer y BBC 2014, mewn partneriaeth gyda Booktrust.
Dyma’r trydydd tro i’r rhestr fer gynnwys menywod yn unig, gyda phum awdur yn ymdrin ag adegau pwysig ym mywyd menyw, o blentyndod i ganol oed, gan gynnwys rhyw a chariad, marwolaeth a dadfeilio.
Detholwyd y rhestr fer o blith dros 550 o geisiadau, ac mae’n cynnwys awduron nodedig, gyda’r mwyafrif ohonyn nhw’n feistri ar ffurf y stori fer. Mae Tessa Hadley yn awdur dau gasgliad o straeon byr yn ogystal â phum nofel a bydd Rose Tremain yn cyhoeddi ei phumed gyfrol o straeon byr ym mis Tachwedd, ac mae Lionel Shriver ar restr fer Gwobr EFG Sunday Times. Mae Tremain a Shriver hefyd wedi bod ar restr fer o’r blaen.
Mae’r nofelydd a’r awdur ysgrifau arobryn, Zadie Smith hefyd ar restr fer 2014. Mae Rhydderch yn ymuno â’r pedair awdur profiadol fel newyddian talentog. Mae’n nofelydd ac yn ddramodydd o Gymru, a chyrhaeddodd ei nofel gyntaf The Rice Paper Diaries restr fer Gwobr Nofel Gyntaf Orau’r Author’s Club ac enillodd Wobr Ffuglen Llyfr y Flwyddyn Cymru 2014.
Rhestr fer eleni yw:
Bad Dreams gan Tessa Hadley
The Taxidermist's Daughter gan Francesca Rhydderch
Kilifi Creek gan Lionel Shriver
Miss Adele Amidst the Corsets gan Zadie Smith
The American Lover gan Rose Tremain
Gan gludo’r darllenwyr ar draws y byd o Efrog Newydd i Kenya, o Lundain i Baris, ac i dref glan môr yng Nghymru, mae’r straeon yn cynnwys myfyriwr ar flwyddyn i ffwrdd sy’n osgoi marwolaeth; perfformiwr sy’n dod i delerau â chanol oed, carwr siomedig; a dwy ferch ifanc sy’n agor eu llygaid i fyd cymhleth oedolion.
Mae stori Rhydderch The Taxidermist’s Daughter yn ddisgrifiad celfydd iawn o ferch ifanc yng Nghymru wledig ar ôl y rhyfel yn dod yn ymwybodol am y tro cyntaf o’i rhywioldeb ac atyniadau dyn sy’n hŷn na hi.
Ganwyd Rhydderch yn Aberystwyth, ac astudiodd am ei gradd gyntaf mewn Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Caergrawnt. Yna dychwelodd i Gymru i barhau gyda’i hastudiaethau gan ennill PhD o Brifysgol Cymru, Aberystwyth fel yr oedd ar y pryd, am ei hastudiaeth gymharol o waith Virginia Woolf a Kate Roberts.
Cyrhaeddodd ei nofel gyntaf The Rice Paper Diaries a gyhoeddwyd yn 2013, restr fer Gwobr Nofel Gyntaf Orau’r Author’s Club ac enillodd Wobr Ffuglen Llyfr y Flwyddyn Cymru 2014. Mae ei straeon byr wedi cael eu cyhoeddi mewn cylchgronau a detholiadau a’u darlledu ar Radio 4. Yn ddiweddar derbyniodd fwrsariaeth gan Lenyddiaeth Cymru i weithio ar ei chasgliad cyntaf o ffuglen fer.
Mae prosiectau eraill yn cynnwys drama Gymraeg, Cyfaill, am yr awdur eiconig Kate Roberts, ac am y gwaith hwn cyrhaeddodd restr fer Gwobr Dramodydd Gorau Beirniaid Theatr Cymru 2014.
Caiff enw enillydd y Wobr eleni ei gyhoeddi mewn seremoni yn Theatr Radio Broadcasting House ddydd Mawrth 30 Medi 2014, a gaiff ei darlledu ar Front Row ar BBC Radio 4. Yn ystod y rhaglen fyw, bydd y cyflwynydd John Wilson hefyd yn sgwrsio gyda’r awdur nodedig Hilary Mantel, fel rhan o raglen yn dathlu’r stori fer.
Am fwy o wybodaeth, ewch i www.booktrust.org.uk/bbcnssa