‘Galw Gwyddonwyr – Beth Mae Hi Fel i Fod Yn Chi?’

Digwyddiad Galw'r Gwyddonwyr

Digwyddiad Galw'r Gwyddonwyr

08 Medi 2014

Rydym yn gwahodd gwyddonwyr o bob maes gwyddonol i ddod i gymryd rhan mewn trafodaeth amser cinio ar ddiwylliant ymchwil a gynhelir ym Mhrifysgol Aberystwyth ddydd Mercher 10 Medi 2014 rhwng 12.30 a 2yp.

Cynhelir y digwyddiad gan Brifysgol Aberystwyth ar y cyd â Chyngor Nuffield ar Fiofoeseg a'i nod yw ysgogi trafodaeth ar gwestiynau megis:

  • Beth sy'n sbarduno gwyddonwyr a pha bwysau sydd arnynt?
  • Sut mae'r drefn ariannu a chyhoeddi yn effeithio ar gynhyrchu ymchwil wyddonol foesegol o safon uchel?
  • Ydy'r dulliau presennol o asesu ansawdd yn y gwyddorau yn gweithio?
  • Ai peth da yw cystadleuaeth yn y gwyddorau?

Mae'r achlysur hwn yn rhan o brosiect cenedlaethol i hel barn ac annog trafodaeth ar sut mae gwahanol agweddau ar y drefn ymchwil yng ngwledydd Prydain yn effeithio, yn gadarnhaol ac yn negyddol, ar waith ac ymddygiad gwyddonwyr ar bob cam yn eu gyrfaoedd.

Mae sawl corff gwyddonol arall yn rhan o'r prosiect, gan gynnwys y Gymdeithas Frenhinol, y Sefydliad Bioleg, y Sefydliad Ffiseg, Cymdeithas Frenhinol Cemeg ac Academi'r Gwyddorau Meddygol. Bydd canlyniadau'r prosiect yn cael eu cyhoeddi a'u cyflwyno i lunwyr polisi tua diwedd 2014.

“Rydym yn falch iawn o gael cynnal y digwyddiad hwn ym Mhrifysgol Aberystwyth i roi cyfle i ymchwilwyr gwyddonol yn y sectorau cyhoeddus, elusennol a phreifat, ac eraill sydd â diddordeb mewn ymchwil wyddonol, i gyfrannu at y drafodaeth bwysig hon,” meddai'r Athro Kate Bullen, Athro Seicoleg a Chyfarwyddwr Moeseg a Chydraddoldeb y Brifysgol.

“Edrychaf ymlaen at gadeirio'r cyfarfod sy'n argoeli bod yn drafodaeth ddiddorol, a gobeithio y bydd gwyddonwyr o amryw gefndiroedd yn ymuno â ni.”

Esboniodd Hugh Whittall, Cyfarwyddwr Cyngor Nuffield ar Fiofoeseg, “Dyma ddyddiad pwysig yn ein cyfres o ddigwyddiadau mewn prifysgolion ledled Prydain. Ein nod yw ystyried a yw'r diwylliant ymchwil presennol yn cynnal ymddygiad moesegol yn y gwyddorau ac yn cynhyrchu ymchwil werthfawr o safon uchel.

“Edrychwn ymlaen yn fawr at glywed beth sydd gan ymchwilwyr Aberystwyth i'w ddweud am, er enghraifft, y dulliau ariannu, y modelau cyhoeddi, y strwythurau gyrfaol a'r prosesau llywodraethu.” 

Bydd y digwyddiad yn cael ei gadeirio gan yr Athro Kate Bullen, a bydd panel o gydweithwyr o Brifysgol Aberystwyth yn ymuno â hi. Er mwyn rhoi cefndir i'r drafodaeth, bydd aelodau'r panel yn rhoi cyflwyniadau byr ar y themâu isod:

  • ‘How multidisciplinary & collaborative research is supported, assessed and rewarded’  - Yr Athro Colin McInnes, Athro UNESCO mewn HIV/AIDS, Addysg a Sicrwydd Iechyd yn Affrica, Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol
  • ‘Research Excellence Framework (REF) and Open Access’ - Hannah Payne
    Rheolwr FfRhY a Monitro Ymchwil, Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi
  • ‘Animal ethical review processes’ - yr Athro Will Haresign
    Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyfarwyddwr Ffermydd ac Athro Amaethyddiaeth, Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig

Cynhelir ‘Galw Gwyddonwyr – Beth Mae Hi Fel i Fod Yn Chi?’ yn y Brif Neuadd yn Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Campws Penglais, rhwng 12.30 a 2yp a bydd bwffe ar gael o 12 o’r gloch ymlaen. 

Mae'r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim ac mae ar agor i bawb. Bydd angen archebu'ch lle ymlaen llaw. Am ragor o wybodaeth ac am fanylion ynghylch sut i gofrestru am y digwyddiad hwn, gweler:  http://jump.aber.ac.uk/?prsft