Dyfarnwyd Gwobr Ellis i Dr Susan Davies

Dr Susan Davies gyda’r Wobr Ellis

Dr Susan Davies gyda’r Wobr Ellis

02 Medi 2014

Mae Cymdeithas Archifau a Chofnodion wedi dyfarnu Gwobr Ellis i Dr Susan J Davies, Ddarlithydd Cysylltiol yn yr Adran Astudiaethau Gwybodaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Cyflwynwyd y wobr i Dr Davies gan Gadeirydd y Gymdeithas, David Mander, y eu cynhadledd flynyddol wythnos diwethaf yn Newcastle. Canmolodd David Mander y 'cyfraniad sylweddol' a oedd Dr Davies yn gwneud i'r sector ac i'r proffesiwn.

Mae’r Wobr yn cael ei roi, fel arfer bob tair blynedd, i gydnabod gwaith rhagorol yn y sector a 'chyfraniad sylweddol at theori ac ymarfer archif'.

Roedd Tlws Ellis 2104 yn darllen: 'Dyfarnwyd i Dr Susan J Davies am ragoriaeth fel addysgwr a darparwr cyngor arbenigol ar archifau'.

Fe wnaeth Dr Davies, sydd yn byw yn Aberystwyth, addysgu ym Mhrifysgol Aberystwyth rhwng 1979-2008 yn yr Adran Hanes a Hanes Cymru.

Roedd hi hefyd ynghlwm wrth yr Adran Astudiaethau Gwybodaeth o '98 i '08 ac roedd yn Gyfarwyddwr y rhaglenni MScEcon mewn Gweinyddu Archifau a Rheoli Cofnodion. Sefydlodd cwrs MA mewn Astudiaethau Treftadaeth.

Dywedodd, "Mae hon yn wobr mor bwysig oherwydd y diddordeb cyffredin sydd gennyf gyda'r person a’i sefydlodd ynglŷn â gofalu am archifau.

"Mae hi mor bwysig ein bod yn gofalu am ein treftadaeth ddiwylliannol a’n deunydd hanesyddol am fod y wybodaeth yn cadw ein gorffennol ac yn diffinio ein hunaniaeth."

Rhwng 2008 i 2011, roedd Dr Davies yn aelod o Banel Arbenigol Cronfa Dreftadaeth y Loteri a rhwng 2011-2013, roedd yn ymgynghorydd ar ran Cronfa Dreftadaeth y Loteri ar gyfer prosiect digido archif fawr yn Tate Britain.

Roedd ymchwil PhD Dr Davies i mewn i hanes eglwysig canoloesol. Mae hi hefyd gyda diddordebau ymchwil mewn hanes gweinyddol a lleol, llawysgrif a gwaith golygyddol, cysyniadau treftadaeth a'u rôl yn y gymdeithas.

Mae Dr Davies wedi bod yn aelod o'r Gymdeithas Archifau a Chofnodion (a chyn hynny Cymdeithas yr Archifyddion) ers y 1980au. Bydd ei barn ar dderbyn y Wobr Ellis yn cael ei gyhoeddi yng nghylchgrawn y Gymdeithas ac ar gael yn eang yn y sector.

Mae’r Wobr yn bosib trwy waddol at Gymdeithas yr Archifyddion yn 1972 gan Roger Ellis, er cof am ei rieni a Sybil Harry Ellis.

AU34114