Bodlonrwydd ag ansawdd yr addysgu ac adnoddau dysgu ar gynnydd

12 Awst 2014

Mae myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi dangos lefelau uwch o fodlonrwydd ag ansawdd yr addysgu ac adnoddau dysgu yn ôl yr Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol diweddaraf (NSS).

Arolwg blynyddol o fyfyrwyr israddedig yn eu blwyddyn olaf yw’r NSS, â'i nod yw darparu gwybodaeth i ddarpar fyfyrwyr addysg uwch wrth iddynt wneud dewisiadau, a meithrin diwylliant o welliant parhaus ar draws y sector Addysg Uwch. Dywedodd 83% o fyfyrwyr Aberystwyth eu bod yn fodlon â’r profiad myfyrwyr cyffredinol yn Aberystwyth.

Dywedodd 86% o fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth eu bod yn fodlon ag ansawdd yr addysgu ar eu cwrs, i fyny o 84% yn 2013. Codi hefyd wnaeth boddhad â'r adnoddau dysgu, i 82%.

Ar lefel adrannol, roedd rhai perfformiadau nodedig gyda Chyfrifiadureg, Seicoleg, Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, Ffiseg, Cymraeg, a Theatr, Ffilm a Theledu yn dangos cynnydd sylweddol mewn boddhad ag ansawdd yr addysgu.

Ymysg yr adrannau sydd â graddfeydd uchel o fodlonrwydd y mae Mathemateg, Cymraeg, Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, Seicoleg, Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Ffiseg.

Dywedodd y Dirprwy Is-Ganghellor Rebecca Davies; “Mae canlyniadau’r NSS eleni yn dangos yn glir bod myfyrwyr yn dechrau elwa o’r cyfleusterau newydd sy'n cael eu gosod yn eu lle ym Mhrifysgol Aberystwyth.

"Mae mwy na £8 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn cyfleusterau addysgu a dysgu newydd. Mae rhaglen fuddsoddi gwerth £3m i uwchraddio ystafelloedd addysgu ar gampws Penglais ar y gweill; mae hyn yn ychwanegol at y £5 miliwn a fuddsoddwyd eisoes mewn cyfleusterau addysgu a dysgu newydd yn ystod 2013, gan gynnwys uwchraddiad sylweddol i Gampws Llanbadarn y Brifysgol.

"Yn ogystal â chyfleusterau newydd, rydym yn buddsoddi mewn staff, gwobrwyo ymrwymiad i addysgu a dysgu, a chefnogi darlithwyr a myfyrwyr trwy fentrau newydd cyffrous ac arloesol megis Aber Academi sydd yn fuddsoddiad o £200,000. Pwrpas yr uned hon yw creu adnoddau dysgu amlgyfrwng gan ddefnyddio sain, fideo ac animeiddio er mwyn cyfoethogi profiad dysgu’r myfyrwyr – ac mae’n golygu bod Prifysgol Aberystwyth ar gael i bawb."

"Mae ein myfyrwyr yn dweud wrthym eu bod yn caru Aber, ac mae’r Brifysgol yn annwyl iawn i’r rhai a raddiodd yn ddiweddar yn ogystal â’r rhai hŷn. Mae'r Brifysgol yn mynd i'r afael â nifer o flynyddoedd o danfuddsoddi mewn meysydd allweddol sy'n effeithio ar y profiad myfyrwyr, ac mae NSS eleni yn dangos ein bod ar ein ffordd i adfer enw da Aberystwyth fel un o'r llefydd gorau yn y byd i fod yn fyfyriwr. "

Mae Prifysgol Aberystwyth hefyd yn buddsoddi mwy na £100 miliwn mewn tri phrosiect sylweddol. Yn ddiweddarach eleni, bydd preswylfeydd newydd Fferm Penglais, buddsoddiad gwerth £45m, yn agor eu drysau, ac yn cynnig llety myfyrwyr a fydd gyda’r gorau mewn unrhyw brifysgol yn y Deyrnas Gyfunol.

Mae'r Brifysgol hefyd yn cynllunio i fuddsoddi £ 35m mewn campws arloesedd a menter yng Ngogerddan, ac £20m er mwyn ailddatblygu’r Hen Goleg , adeilad eiconig a chartref Coleg Prifysgol gyntaf Cymru.

AU15214