Geoff Constable
Geoff Constable
31 Gorffennaf 2014
Gyda thristwch mawr y nodwn farwolaeth sydyn Geoff Constable.
Geoff oedd Swyddog Cyswllt prosiect CADARN sy’n cael ei ariannu gan CCAUC. Bu’n gweithio mewn amryw swyddi yn y Brifysgol ers 1995, gan gynnwys Cydymaith Ymchwil yn yr Adran Gyfrifiadureg.
Roedd Geoff yn athro cymwysedig ac yn raddedig o Brifysgol Caint, Caergaint a Phrifysgol Aberystwyth, lle cwblhaodd MSc mewn Cyfrifiadureg yn 1994. Cafodd yrfa hir ac amrywiol ym meysydd TG, technoleg cyfathrebu, rhwydweithio fideo, a’r defnydd o dechnoleg i hybu addysgu. Roedd hyn yn cynnwys gweithio i'r Swyddfa Bost, Cyngor Sir Powys, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac amryw o gwmnïau ym Machynlleth. Ym 1995 ymunodd â'r Brifysgol ar y prosiect "MICE-NSC" yn Adran Cyfrifiadureg, lle bu’n hyrwyddo ac yn gwerthuso'r defnydd o gyfathrebu aml-lediad IP, yr elfen Gymreig mewn prosiect mwy a oedd cynnwys, ymhlith eraill, UCL, Exeter a Glasgow.
Yn ogystal â MICE-NSC, gweithiodd Geoff i’r Adran Gyfrifiadureg mewn nifer o rolau a phrosiectau eraill gan gynnwys gwefeistr, gosod aml-lediad IP, Gwasanaeth Cynghori Technoleg Fideo ar draws Prydain, astudiaethau "Ansawdd Gwasanaeth" IP, gosod rhwydwaith gwledig, a'r defnydd o gyfathrebu a TG. Cyllidwyd llawer o'r gwaith hwn gan UKERNA, JANET a JISC. Bu hefyd yn gweithio ar SCREEN, prosiect peirianneg meddalwedd mawr a gyllidwyd gan Ewrop.
Dangosodd astudiaeth a gynhyrchwyd gan UKERNA (United Kingdom Education and Research Network Association) dystiolaeth o’r galw am rwydwaith fideo cenedlaethol integredig ar gyfer Addysg Bellach ac Uwch. Derbyniodd UKERNA gytundeb gan ELWa (Cyngor Cyllido Cymreig ar y pryd) i ddarparu'r rhwydwaith fideo-gynadledda. Sefydlwyd Canolfan Cefnogaeth Rhwydwaith Fideo Cymru (RhFC) gyda staff wedi'u lleoli yn Abertawe ac Aberystwyth. Roedd hon yn fenter flaengar a byd-arweiniol ac ymunodd Geoff â RhFC yn 2001 pan gafodd ei benodi yn Swyddog Cynorthwyo Gwasanaethau Fideo. Bu’n gweithio yno tan 2012 gan gefnogi rhai miloedd o ddefnyddwyr y rhwydwaith. Yn ystod y cyfnod hwn cyfrannodd at nifer o brosiectau cenedlaethol, at UKERNA yn y lle cyntaf, ac yna’r Cyd-Rhwydwaith Academaidd (JANET).
Ers tro bu Geoff yn aelod o Dîm Rheoli lleol UCU a’r cynrychiolydd Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd. Gweithiodd yn ddiflino yn y rolau hyn gan gefnogi'r Undeb a buddiannau ei haelodau yn Aberystwyth. Roedd yn gefnogwr brwd o achosion gwyrdd ac amgylcheddol a bu’n llwyddiannus wrth godi proffil y materion hyn o fewn y Brifysgol. Roedd Geoff yn ymwneud â dau brosiect TGCh Gwyrdd a oedd yn ymchwilio i’r arbedion mewn allyriadau carbon a allai gael eu gwneud trwy ddefnyddio technolegau gwybodaeth a chyfathrebu yn effeithiol. Yn ystod 2010-11 bu'n gweithio ar brosiect oedd yn ymchwilio i'r defnydd o dechnoleg fideo-gynadledda er mwyn lleihau allyriadau carbon sy'n gysylltiedig â theithio. Ar ôl hyn, yn ystod 2011-12, bu'n gweithio ar brosiect PAWS (Power down And Wake System), a gyllidwyd drwy Raglen Gwyrddio TGCh JISC, sy’n lleihau defnydd ynni cyfrifiaduron. Yn ddiweddar, yn Gwasanaethau Gwybodaeth, ef oedd yn gyfrifol am sefydlu'r cynllun bocs llysiau organig ac roedd yn rhan ganolog o dîm Effaith Gwyrdd Gwasanaethau Gwybodaeth.
Yn fwyaf diweddar chwaraeodd Geoff rôl allweddol yn gweithio fel Swyddog Cyswllt i Borth Dysgu CADARN, prosiect cenedlaethol sy'n gweithio gyda staff academaidd sy’n creu deunydd cyfryngau addysgol i ysbrydoli myfyrwyr newydd i ddod i addysg uwch. Roedd cyfraniad Geoff yn allweddol er mwyn sicrhau cyllid o £1.5M ar gyfer y prosiect gan CCAUC a, drwy weithio gyda rhwydwaith CADARN, lunio cyfeiriad y fenter newydd flaengar hon. Yn ogystal, bu Geoff yn gwneud rhywfaint o waith newyddiadura fideo gan gynnal blog llawn gwybodaeth a oedd yn arddangos addysgu arloesol o bob cwr o Gymru.
Mi fydd llawer ohonoch wedi gweithio yn agos gyda Geoff dros y blynyddoedd ac yn gweld eisiau ei haelioni a’i frwdfrydedd. Estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf at ei deulu a'r rhai a fu’n gweithio'n agos gydag ef ar yr adeg anodd hon.
AU32014