Gwladychwyr Cymreig Patagonia yn destun trafod yn yr Eisteddfod

Dr Hywel Griffiths

Dr Hywel Griffiths

31 Gorffennaf 2014

Am y tro cyntaf eleni, fe fydd Prifysgol Aberystwyth yn cynnal Darlith Flynyddol E.G. Bowen yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli (1-9 Awst) a fydd yn edrych ar sut y gwnaeth gwladychwyr Cymreig Patagonia addasu i lifogydd a sychder o 1865 hyd at heddiw.

Bydd y ddarlith o'r enw 'Llifogydd, sychder ac addasu yng nghymdeithas hydrograffig y Wladfa Gymreig, Patagonia', yn cael ei thraddodi gan Dr Hywel Griffiths o Aberystwyth a bydd yn edrych ar y rhyngwynebau rhwng y gwladychwyr Cymreig, eu diwylliant ac yr amgylchedd wrth iddynt gael eu gorfodi i addasu i eithafion hinsoddol annisgwyl.

Cynhelir y ddarlith ar ddydd Gwener 8 Awst ym mhabell Prifysgol Aberystwyth yn Eisteddfod Genedlaethol o 12pm ymlaen.

Eglurodd Dr Griffiths o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear y Brifysgol, "Drwy edrych ar lythyron, ysgrifau a llenyddiaeth greadigol y gwladychwyr Cymreig cynnar gallwn ail-greu cronoleg o lifogydd a sychder yn yr ardal a sut wnaethant addasu i'w hamgylchedd newydd.

"Mae cyfweliadau ag ymchwil archifol gyda siaradwyr Cymraeg yng nghymunedau Patagonia hefyd yn amlygu pwysigrwydd profiadau'r sefydlwyr yng Nghymru a'u hatgofion diwylliannol wrth iddynt ganfod tirwedd newydd a'i gymharu â'r amgylchedd yng Nghymru a oedd yn fwy cyfarwydd iddynt.

"Roedd llifogydd yn arbennig o gyffredin yn y blynyddoedd cynnar pwysig hynny yn dilyn  sefydlu’r Wladfa, ac ar droad yr ugeinfed ganrif, ond drwy harneisio a rheoleiddio afonydd ar gyfer dyfrhau roedd modd iddynt sefydlu cymuned amaethyddol lewyrchus."

Mae'r ddarlith wedi cael ei sefydlu er cof am yr Athro E. G. Bowen, daearyddwr rhyngwladol o fri oedd â diddordeb arbennig mewn daearyddiaeth ffisegol a daearyddiaeth gymdeithasol Cymru.

Roedd Bowen, a aned yng Nghaerfyrddin, yn aelod o  staff academaidd yr Adran Daearyddiaeth ac Anthropoleg yn Aberystwyth ym 1929, ac roedd yn dal i ysgrifennu a darlithio yn y Brifysgol hyd at ei farwolaeth yn 1983.

Am restr lawn o ddigwyddiadau ar stondin Prifysgol Aberystwyth yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, ewch i: http://www.aber.ac.uk/cy/news/archive/2014/07/title-153786-cy.html

AU22214