Yr Athro Dave Barnes

Yr Athro Barnes yn y ‘Mars Yard’ a adeiladodd yn Aberystwyth

Yr Athro Barnes yn y ‘Mars Yard’ a adeiladodd yn Aberystwyth

31 Gorffennaf 2014

Gyda thristwch mawr y nodwn farwolaeth sydyn Dr Dave Barnes, Athro Roboteg y Gofod a’r Planedau yn yr Adran Gyfrifiadureg, yn 58 mlwydd oed.

Yn wreiddiol o Blackburn, graddiodd yr Athro Barnes o Brifysgol Bradford (1980) cyn mynd ymlaen i gwblhau gradd Meistr mewn Deallusrwydd a Roboteg Beirianyddol o Goleg y Frenhines Mary, Prifysgol Llundain, ac yna Doethuriaeth mewn Deallusrwydd Artiffisial a Roboteg yma yn Aberystwyth yn 1985.

Chwaraeodd rôl allweddol yn natblygiad y fraich robotig a oedd yn rhan o daith Beagle 2 i’r blaned Mawrth a bu’n gweithio'n agos gyda'r diweddar Athro Colin Pillinger.

Roedd yr Athro Barnes yn aelod o Bwyllgor Cynghori Aurora Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg y Deyrnas Gyfunol (AurAC) ers 2005, ac roedd yn cynrychioli buddiannau cymuned Cyngor Ymchwil y Gwyddorau Peirianyddol a Ffisegol ar faterion yn ymwneud â Rhaglen Ymchwil i’r Planedau Aurora yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd.

Roedd yn aelod ac un o sefydlwyr Rhwydwaith Roboteg y Gofod a’r Planedau y Deyrnas Gyfunol, ac yn aelod o Bwyllgor Gwyddoniaeth Ffiseg Gronynnau, Seryddiaeth a Ffiseg Niwclear Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg y Deyrnas Gyfunol - PANN.

Roedd yn aelod o dîm Crwydryn ExoMars yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd, ac yn ymchwilio i ddulliau caffael samplau gwyddonol ymreolaethol ar gyfer taith ofod ExoMars yn 2018.

Roedd yn Gyd-ymchwilydd ar Gamera Panoramig y daith (PanCam). Fel aelod o'r Tîm Golwg 3D PanCam, roedd ei gyfrifoldebau’n cynnwys modelu, efelychu, prosesu data delweddau a delweddu data gwyddonol PanCam.

Yn fwy diweddar, bu’n ganolog i ddatblygiadau cychwynnol y cynllun Gofodborth arfaethedig drwy ei waith gyda Phartneriaeth Academaidd y Gofod Cymru.

Estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf at ei deulu a'r rhai a fu’n gweithio'n agos gydag ef, ar yr adeg anodd hon.

AU31314