Canllaw Clirio

25 Gorffennaf 2014

Gyda dim ond pythefnos i fynd tan Clirio, mae Prifysgol Aberystwyth wedi gwneud y broses mor hawdd â phosib eleni drwy greu canllaw fideo i helpu unigolion i lywio eu ffordd drwy'r system: https://www.youtube.com/watch?v=Zqhk3Nh0snU

Os yw eich canlyniadau arholiad yn wahanol i’r hyn yr oeddech yn ei ddisgwyl, peidiwch â phoeni oherwydd mae nifer o gyrsiau ar gael trwy Clirio ac fe allai’r broses eich arwain at y cwrs delfrydol i chi.

Flwyddyn hyn mae Aberystwyth yn cynnig Bwrsariaeth Clirio sydd yn ostyngiad o £200 oddi ar ffi llety yn y flwyddyn gyntaf a gallai rhai unigolion hefyd fod yn gymwys i gael Bwrsariaeth Aber sy'n werth hyd at £1,100 y flwyddyn.

Yn ogystal, bydd holl ymgeiswyr o'r Deyrnas Gyfunol / UE sydd yn cadw Aberystwyth fel eu dewis yswiriant hefyd yn derbyn y gostyngiad llety werth £200. Gellir cael mwy o wybodaeth am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a gwobrau yma: http://www.aber.ac.uk/cy/scholarships-bursaries/

Mae canllaw cyflawn Clirio Prifysgol Aberystwyth ar gael yma: https://www.aber.ac.uk/cy/ucasclearing2014/clearing-tips/

Dywedodd Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, Yr Athro John Grattan, “Yn ddiweddar, cynhaliwyd ein Hwythnos Graddio yn Aberystwyth a phan wnaethom ofyn i’n graddedigion pam eu bod wedi penderfynu dod yma, dywedodd y mwyafrif mai oherwydd enw da'r adrannau ac am ei fod yn lle diogel a chyfeillgar i astudio.

"Mae'r canllaw fideo yn rhoi cyngor ac awgrymiadau ar beth i'w wneud yn syth ar ôl derbyn eich canlyniadau Lefel A hyd nes bod eich lle yn y brifysgol wedi ei sicrhau. Mae'r Tîm Cymorth Clirio ar gael unrhyw bryd cyn, yn ystod, ac ar ôl diwrnod canlyniadau Lefel A, felly rhowch alwad i ni os oes gennych unrhyw gwestiynau."

Yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd mis diwethaf  gan Complete University Guide, roedd Prifysgol Aberystwyth ymhlith y pump uchaf o ran lleoliadau mwyaf diogel yng Nghymru a Lloegr i astudio, ac Aberystwyth yw’r lle mwyaf diogel yng Nghymru.

Mae Aberystwyth yn gwarantu llety i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf, gan gynnwys y rhai hynny sy'n dod trwy Clirio ac Addasu, felly ffoniwch y Tîm Cefnogi Clirio ar 01970 608 599 os oes gennych unrhyw gwestiynau.

Mae dros 11,000 o fyfyrwyr israddedig ac uwchraddedig yn astudio yn Aberystwyth. Daw tua thraean ohonynt o Gymru, 60% o weddill y Deyrnas Gyfunol ac Iwerddon, gyda'r gweddill o weddill y byd.

Yn ystod y tair blynedd nesaf, mae Prifysgol Aberystwyth yn buddsoddi dros £100 miliwn i wella ac ymestyn cyfleusterau preswyl ac addysgu ar draws ei gampysau sy'n cynnwys preswylfeydd newydd Fferm Penglais, yr Hen Goleg, Campws Gogerddan a Chanolfan Llanbadarn.

AU31114