Teyrngedau i fyfyriwr o Maleisia
Ern Nian Yaw
25 Gorffennaf 2014
Mae teyrngedau wedi cael eu talu i Ern Nian Yaw, myfyriwr yn Adran y Gyfraith a Throseddeg a fu farw'r wythnos ddiwethaf mewn damwain car drasig yn ei wlad enedigol, Maleisia.
Daeth Ern i Brifysgol Aberystwyth yn 2012 ar ôl astudio ym Mhrifysgol HELP a graddiodd yn 2013 gyda 2(1) LLB.
Ar ôl graddio, ymunodd â rhaglen Meistr Hawliau Dynol a Chyfraith Ddyngarol yr Adran.
Y mis diwethaf dychwelodd i Maleisia i gwblhau ei draethawd hir ac i ymgymryd â lleoliad gwaith gyda Comisiwn Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig.
Ar ddiwrnod y ddamwain, roedd yn dychwelyd i Kuala Lumpur o Malacca ar ôl sicrhau rhyddhau deugain o ffoaduriaid o ganolfan gadw.
Mewn teyrnged iddo, dywedodd yr Athro John Williams, Pennaeth Adran y Gyfraith a Throseddeg:
"Gyda thristwch mawr y clywsom am farwolaeth Ern Nian Yaw, un o'n myfyrwyr y Gyfraith o Maleisia.
"Wedi iddo gyrraedd Aberystwyth yn 2012, gwnaeth Ern argraff fawr ar fywyd yr adran, nid yn unig fel myfyrwyr uchel ei gymhelliant, ond hefyd fel unigolyn unigryw ac arbennig. Golygodd ei bersonoliaeth gynnes, ei wên lydan a’i natur ddiymhongar ddiffuant iddo ennyn hoffter pawb a gyfarfu ag ef. Roedd ganddo ymdeimlad gwych o hiwmor a hwyl. Ei athroniaeth oedd taw rhywbeth i’w fwynhau oedd bywyd.
"Roedd Ern wrth ei fodd gyda’r Gyfraith. Yr oedd bob amser yn hapus i gymryd rhan mewn trafodaethau ar unrhyw bwnc yn ymwneud â’r Gyfraith. Fodd bynnag, rôl y Gyfraith wrth amddiffyn a gwella hawliau eraill, yn arbennig y rhai a oedd dan anfantais, oedd ei brif ddiddordeb. Roedd wedi ymroi i hyrwyddo iawnderau dynol a byddai anghyfiawnder ac annhegwch yn ei wylltio, ble bynnag y byddai hynny’n digwydd. Mi fyddai Ern wedi bod yn ymgyrchydd gwych dros hawliau dynol. Byddai wedi gwneud gwahaniaeth - byddai wedi gweithio i lunio cymdeithas decach a mwy cyfiawn.
"Roedd Ern yn gefnogwr brwd o Adran y Gyfraith a Throseddeg. Eleni, chwaraeodd ran ganolog wrth drefnu cynhadledd undydd ar AIDS/HIV. Fel un o gyd-arweinwyr y diwrnod, roedd Ern yn llysgennad ardderchog i Aberystwyth - pwynt a wnaed gan lawer o’r cyfranogwyr. Roedd Ern hefyd yn un o olygyddion gwreiddiol Cyfnodolyn y Gyfraith a Throseddeg Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth. Mae rhifyn cyntaf y cyfnodolyn yn cael ei gyflwyno yn ei enw. Roedd ei sgiliau arwain a gweithio mewn tîm yn amlwg wrth i’r syniad am gyfnodolyn gael ei wireddu.
"Roedd gan Ern lawer o ddoniau a galluoedd, ac yr oedd ganddo ddyfodol addawol. Mae'n drist tu hwnt i'r hyn y gall geiriau eu mynegi fod ei fywyd wedi dod i ben mor sydyn ac yntau mor ifanc. Mae ei lwyddiannau academaidd a’r gwobrau a dderbyniodd yn tystio i'r oll a gyflawnodd yn ystod ei fywyd byr. Mae ei farwolaeth yn golled fawr. Yr oedd yn berson hyfryd a fydd yn aros yn ein cof. Roedd yn garedig a gofalgar. Roedd cyfarfod ag ef yn goleuo’r diwrnod. Bydd etifeddiaeth Ern yn ysbrydoli cenedlaethau o fyfyrwyr a staff yn Aberystwyth a thu hwnt yn y dyfodol, ac mae hynny'n deyrnged briodol i berson mor wych.
Mae ein meddyliau gyda'i deulu a’u ffrindiau niferus.”
AU30314