Urddo Dirprwy Lefarydd Tŷ’r Arglwyddi

Is Lywydd Prifysgol Aberystwyth, Dr Glyn Rowlands, yn cyflwyno’r Farwnes Andrews yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth.

Is Lywydd Prifysgol Aberystwyth, Dr Glyn Rowlands, yn cyflwyno’r Farwnes Andrews yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth.

18 Gorffennaf 2014

Urddwyd Y Farwnes Kay Andrews, Dirprwy Lefarydd Tŷ’r Arglwyddi, cyn Gadeirydd English Heritage a chyn fyfyrwraig o Brifysgol Aberystwyth yn Gymrawd.

Graddiodd y Farwnes Andrews mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol o Brifysgol Aberystwyth ym 1964.

Bu’n Glerc Ymchwil yn Nhŷ'r Cyffredin, lle'r oedd yn arbenigo mewn polisi gwyddoniaeth, cymdeithasol ac addysg, ac yn 1985 daeth yn ymgynghorydd polisi ar iechyd ac addysg i Arweinydd yr Wrthblaid ar y pryd, y Gwir Anrhydeddus Neil Kinnock (Yr Arglwydd Kinnock erbyn hyn).

Yn 1992 sefydlodd a daeth yn Gyfarwyddwr cyntaf y Sefydliad dros Ddysgu Tu Hwnt i’r Ysgol (Education Extra), elusen ar gyfer datblygu rhaglenni dysgu i blant ysgol a phobl ifainc ym mhob rhan o’r Deyrnas Gyfunol.

Bu’r Farwnes Andrews yn aelod Llafur yn Nhŷ'r Arglwyddi ers 2000, yn Llefarydd/Chwip y Llywodraeth ar iechyd ac addysg yn Nhŷ'r Arglwyddi rhwng 2003 a 2009, a Gweinidog Tŷ'r Arglwyddi dros Dai, Adfywio a Chynllunio yn yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol o 2005 tan 2009.

Yn 2009 hi oedd y wraig gyntaf i’w phenodi’n Gadeirydd English Heritage (2009-2013).

Mae’n awdur adroddiad diweddar i Lywodraeth Cymru ar Ddiwylliant, Treftadaeth a Thlodi, ac mae hefyd wedi ysgrifennu llyfrau ac erthyglau ar bolisi gwyddoniaeth, polisi cymdeithasol ac addysg..

Cyflwynwyd y Farwnes Kay Andrews gan Rebecca Davies, Dirprwy Is-Ganghellor dros Wasanaethau i Fyfyrwyr a Staff, ar ddydd Gwener 18 Gorffennaf.

Mae’r Farwnes Andrews yn un o un ar ddeg o Gymrodyr sydd wedi eu hurddo yn ystod seremonïau graddio eleni, sydd yn cael eu cynnal yng Nghanolfan y Celfyddydau’r Brifysgol o ddydd Llun 14 tan ddydd Gwener 18 Gorffennaf.

Cyflwynir y teitl Cymrawd er mwyn anrhydeddu pobl adnabyddus sydd â chysylltiad agos â Phrifysgol Aberystwyth neu sydd wedi gwneud cyfraniad mawr i fywyd proffesiynol neu gyhoeddus yng Nghymru.

Y Cymrodyr eraill a urddwyd yw:

  • D. Geraint Lewis, awdur, cyn Llyfrgellydd Addysg a Phlant Dyfed a chyn Gyfarwyddwr Addysg Cynorthwyol gyda Chyngor Sir Ceredigion.
  • Yr Athro John Harries, Prif Ymgynghorydd Gwyddonol cyntaf Cymru a Ffisegydd atmosfferig o fri.
  • Jeremy Bowen, Golygydd Dwyrain Canol y BBC.
  • Syr Michael Moritz, cyfalafwr menter a dyngarwr sy’n wreiddiol o Gaerdydd
  • Rhodri Meilir, cyn fyfyriwr ac actor sydd newydd ymddangos yng nghynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru, Mametz, a dderbyniodd gryn ganmoliaeth.
  • Ed Thomas, dramodydd, cyfarwyddwr, cynhyrchydd; un o sylfaenwyr a chyfarwyddwr creadigol ar y cwmni cynhyrchu Fiction Factory.
  • Rhod Gilbert, comedïwr a chyflwynydd rhaglenni radio a theledu.
  • Yr Athro Bonnie Buntain, Athro Ddeon Cynorthwyol Iechyd Cyhoeddus ym Mhrifysgol Calgary yng Nghanada a chyn Brif Filfeddyg Iechyd Cyhoeddus yng Ngwasanaeth Diogelwch Bwyd ac Archwilio i Adran Amaeth yr Unol Daleithiau.
  • Dr John Sheehy, Pennaeth Emeritws ar y Labordy Ffotosynthesis Cymhwysol a Modelu Systemau yn y Sefydliad Ymchwil Reis Rhyngwladol, a chyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth.
  • Brian Jones, ffermwr, entrepreneur, a sefydlydd a Rheolwr Gyfarwyddwr cwmni Bwydydd Castell Howell Cyf.

AU29714