Urddo’r comedïwr Rhod Gilbert yn Gymrawd

Is-Lywydd Prifysgol Aberystwyth, Elizabeth France (chwith), Rhod Gilbert a’r Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth.

Is-Lywydd Prifysgol Aberystwyth, Elizabeth France (chwith), Rhod Gilbert a’r Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth.

16 Gorffennaf 2014

Urddwyd y comedïwr a’r cyflwynydd radio a theledu, Rhod Gilbert, yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth heddiw, ddydd Mercher 16 Gorffennaf.

Yn fab i ddau o gyn-fyfyrwyr Aber, mae Rhod Gilbert yn fwyaf adnabyddus am ei athrylith comedi.

Ar ôl gweithio fel ymchwilydd marchnadol fe ddechreuodd ar ei yrfa fel digrifwr yn 2002. Yn 18 mis cyntaf ei yrfa, ef oedd yr un cyntaf ym Mhrydain i gyrraedd rowndiau terfynol pob cystadleuaeth talent newydd o bwys ac fe lwyddodd i gipio pedair gwobr.

Yn 2005 cafodd ei enwebu am Wobrau Newydd-ddyfodiad Gorau Perrier ac yn 2008 fe'i henwebwyd am brif wobr if.comedy.

Yn 2010, cyflwynodd Rhod gyfres gan y BBC o'r enw Rhod Gilbert’s Work Experience lle y rhoes gynnig ar amryw swyddi.

Mae'n cyfrannu'n rheolaidd at amrywiaeth o wahanol sioeau comedi ac erbyn hyn mae'n cyflwyno'r Rhod Gilbert Show ar Radio Wales y BBC ar fore Sadwrn.

Cyflwynwyd Rhod Gilbert gan yr Athro Sarah Prescott, Cyfarwyddwr Athrofa Llenyddiaeth, Ieithoedd a'r Celfyddydau Creadigol, ar ddydd Mercher 16 Gorffennaf.

Graddio 2014
Mae Rhod Gilbert yn un o un ar ddeg o Gymrodyr sy’n cael eu hurddo yn ystod seremonïau graddio eleni, sydd yn cael eu cynnal yng Nghanolfan y Celfyddydau’r Brifysgol o ddydd Llun 14 tan ddydd Gwener 18 Gorffennaf.

Cyflwynir y teitl Cymrawd er mwyn anrhydeddu pobl adnabyddus sydd â chysylltiad agos â Phrifysgol Aberystwyth neu sydd wedi gwneud cyfraniad mawr i fywyd proffesiynol neu gyhoeddus yng Nghymru.

Y Cymrodyr eraill sydd yn cael eu hurddo eleni yw:

  • D. Geraint Lewis, awdur, cyn Llyfrgellydd Addysg a Phlant Dyfed a chyn Gyfarwyddwr Addysg Cynorthwyol gyda Chyngor Sir Ceredigion.
  • Yr Athro John Harries, Prif Ymgynghorydd Gwyddonol cyntaf Cymru a Ffisegydd atmosfferig o fri.
  • Jeremy Bowen, Golygydd Dwyrain Canol y BBC.
  • Syr Michael Moritz, cyfalafwr menter a dyngarwr sy’n wreiddiol o Gaerdydd
  • Rhodri Meilir, cyn fyfyriwr ac actor sydd newydd ymddangos yng nghynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru, Mametz, a dderbyniodd gryn ganmoliaeth.
  • Ed Thomas, dramodydd, cyfarwyddwr, cynhyrchydd; un o sylfaenwyr a chyfarwyddwr creadigol ar y cwmni cynhyrchu Fiction Factory.
  • Yr Athro Bonnie Buntain, Athro Ddeon Cynorthwyol Iechyd Cyhoeddus ym Mhrifysgol Calgary yng Nghanada a chyn Brif Filfeddyg Iechyd Cyhoeddus yng Ngwasanaeth Diogelwch Bwyd ac Archwilio i Adran Amaeth yr Unol Daleithiau.
  • Dr John Sheehy, Pennaeth Emeritws ar y Labordy Ffotosynthesis Cymhwysol a Modelu Systemau yn y Sefydliad Ymchwil Reis Rhyngwladol, a chyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth.
  • Brian Jones, ffermwr, entrepreneur, a sefydlydd a Rheolwr Gyfarwyddwr cwmni Bwydydd Castell Howell Cyf.
  • Y Farwnes Kay Andrews, Dirprwy Lefarydd Tŷ’r Arglwyddi, cyn Gadeirydd English Heritage, a chyn fyfyrwraig o Brifysgol Aberystwyth.

AU29314