Yr Athro Len Scott: Cymrawd Dysgu ac Addysgu

Yr Athro Len Scott

Yr Athro Len Scott

15 Gorffennaf 2014

Cyflwynwyd Cymrodoriaeth Dysgu ac Addysgu i’r Athro Len Scott heddiw, 15 Gorffennaf, mewn cydnabyddiaeth o’i gyfraniad eithriadol i ddysgu ac addysgu yn y Brifysgol.

Bob blwyddyn, mae Prifysgol Aberystwyth yn gwobrwyo aelodau staff academaidd sydd wedi rhagori yn eu maes gyda Chymrodoriaethau Dysgu.

Eleni bydd y Gwobrau yn cael eu cyflwyno i bum ymgeisydd llwyddiannus yn ystod Seremoniau Graddio sy’n cael eu cynnal  rhwng y 14eg-18fed o Orffennaf 2014.

Mae diddordebau ymchwil yr Athro Scott, sy’n Athro mewn Astudiaethau Hanes Rhyngwladol a Gwybodaeth, yn canolbwyntio ar astudiaethau cudd-wybodaeth, hanes y Rhyfel Oer a hanes niwclear.

Ymunodd a Phrifysgol Aberystwyth yn 1990 ar ôl nifer o flynyddoedd yn San Steffan a Whitehall. Mae'n Gymrawd o'r Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol a'r Academi Addysg Uwch. Ef a sefydlodd, a bu’n Gyfarwyddwr ar y Ganolfan ar gyfer Astudiaethau Diogelwch Rhyngwladol a Chudd-Wybodaeth o 2004 tan 2007 ac yna o 2009 tan 2010. O 2000 tan 2005 a rhwng 2009 a 2013, gwasanaethodd fel Deon y Gwyddorau Cymdeithasol.

Eglurodd yr Athro Scott, "Yr wyf yn falch iawn o fod yn derbyn y wobr hon. Mae fy agwedd tuag at addysgu yn adlewyrchu dros ugain mlynedd o brofiad, myfyrio ac arloesi. Yr wyf wir yn mwynhau addysgu, ac yn credu mai’r ffordd orau i fyfyrwyr ddysgu yw mwynhau dysgu.

"Mae datblygu amgylchedd dysgu bywiog yn ymestyn ymhell y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth ac eto mae beth sydd yn digwydd yn yr ystafell ddosbarth yn hanfodol. Rwy’n parhau i ymroi i ganfod ffyrdd o ysgogi ac annog myfyrwyr ar bob lefel. Yr wyf hefyd wedi ymrwymo i fynd ar drywydd rhagoriaeth - bydd rhan o arian y wobr yn cael ei gynnig am y traethawd gorau gan fyfyriwr MA mewn astudiaethau cudd-wybodaeth.”

Y pedwar aelod academaidd araill i gael eu cyflwyno yw Dr Antonia Ivaldi, o’r Adran Seicoleg, Dr David Whitworth o IBERS, Graham Lewis o'r Ganolfan ar gyfer Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd a Nitin Naik o’r Adran Gyfrifiadureg. Nod y cynllun yw codi proffil addysgu neu gefnogaeth ar gyfer dysgu yn y Brifysgol a chydnabod dylanwad lleol ac ehangach unigolyn ar y gymuned addysgu.

Eglurodd yr Athro Tim Woods, Cyfarwyddwr y Sefydliad Addysg, Proffesiynol a Datblygu Graddedigion ym Mhrifysgol Aberystwyth a Chadeirydd y Panel Gwobrau, "Mae'r unigolion hyn wedi gwneud cyfraniad sylweddol at addysgu a dysgu yn y Brifysgol ac wedi mynd y tu hwnt i’r hyn sydd yn ofynnol ohonynt ar sawl achlysur.

“Yr unigolion yma yw ein prif hyrwyddwyr mewn dysgu ac addysgu sydd yn aml yn ysbrydoli arloesedd a lledaenu arferion da o fewn y Brifysgol.

"Mae pob Cymrawd wedi derbyn £1,200 i'w cefnogi er mwyn parhau gyda'u datblygiad proffesiynol mewn addysgu neu ddysgu."

Mae Cronfa Gwella Dysgu ac Addysgu hefyd ar gael ar gyfer prosiectau sy'n gwella dysgu ac addysgu sydd yn cynnwys mwy nag un adran academaidd neu a ellir ei ddefnyddio ar draws adrannau.

Mae'r Gronfa yn canolbwyntio ar feysydd a amlygwyd yn Strategaeth Ehangu Mynediad Dysgu Aberystwyth / Bangor, ac yn cynnig hyd at uchafswm o £2,000 y prosiect.

Roedd Dr Hannah Dee o'r Adran Gyfrifiadureg, Dr Sarah Riley o'r Adran Seicoleg a Richard Williams a Dr Stephen Tooth yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear i gyd yn llwyddiannus gyda'u ceisiadau.

AU27414