Myfyriwr Cyflogedig y Flwyddyn

Chwith i’r Dde: Sian Sherman (Rheolwr Cynorthwyol Bwyd a Diod, Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth), Scott Roe (Enillydd SEOTY 2014) a Bev Herrin (Gwasanaeth Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth).

Chwith i’r Dde: Sian Sherman (Rheolwr Cynorthwyol Bwyd a Diod, Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth), Scott Roe (Enillydd SEOTY 2014) a Bev Herrin (Gwasanaeth Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth).

01 Gorffennaf 2014

Mae dau fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth wedi ennill prif wobrau yng Ngwobrau Myfyrwyr Cyflogedig y Flwyddyn 2014 sy’n cael eu cynnal gan Gymdeithas Genedlaethol Gwasanaethau Cyflogau Myfyrwyr (NASES) am eu gwaith fel aelodau staff-myfyrwyr yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth - UMAber.

Mae Gwobrau Myfriwr Cyflogedig y Flwyddyn yn gwobrwyo ac yn hybu cyrhaeddiad a chyfraniad myfyrwyr sy'n cyfuno eu hastudiaethau â gwaith rhan-amser.

Cafodd yr enwebiadau eu beirniadu ar lefel sefydliad, cyn cael eu hystyried gan banel rhanbarthol.

Goruchwyliwr Bwyd & Diod yn yr Undeb yw Scott Roe, a chafod ei enwebu gan yr Is-reolwr Bwyd & Diod Sian Sherman.

Cipiodd Scott wobr 'Camu i fyny at Arweiniaeth' ar lefel sefydliad, a phrif wobr ranbarthol dros Gymru.

Cydnabu’r categori hwn sgiliau arwain Scott wrth gymryd cyfrifoldeb am brosiectau neu adrannau, goruchwylio staff a dangos meddwl creadigol i arwain y busnes.

Dywedodd Scott; “Dwi'n ddiolchgar iawn ym mod wedi cael fy enwebu am y wobr hon. Mae'n ysgogiad mawr, a bydd yn hynod fanteisiol i mi pan fyddaf wed graddio.”

Derbyniodd Barbara Karp, myfyrwraig sy'n gweithio fel glanhawraig yn yr Undeb, wobr 'Y Filltir Ychwanegol' o fewn y sefydliad.

Cafodd Barbara ei chydnabod am gael effaith fawr o fewn yr Undeb, ac am fynd y filltir ychwanegol yn gyson. Dywedodd ei henwebwr, Tim Morgan; “Mae Barbara yn unigolyn ymroddgar, llon a gweithgar, a phleser yw ei gweld yn derbyn cydnabyddiaeth am ei hymrwymiad."

Ychwanegodd Prif Weithredwr UMAber, John Glasby; "Rwy'n falch bod gallu a phroffesiynoldeb Scott a Barbara wedi cael eu cydnabod. Rydyn ni yma yn UMAber yn ymdrechu i gynnig cymaint o gyfleoedd i gyflogi myfyrwyr â phosib, gyda rhaglen hyfforddi rymus i wella eu cyflogadwyedd ar ôl iddyn nhw raddio a'n gadael ni.

“Mae gweld myfyrwyr yn datblygu eu sgiliau gwaith dros gyfnod o amser yn destun boddhad ac mae'n bleser arbennig pan gaiff eu perfformiad ardderchog ei gydnabod yn y modd hwn."

Fel yr enillydd rhanbarthol, bydd Scott yn cymryd rhan yn Rhaglen Doniau Newydd Teach First ym Mhrifysgol Brunel, lle y bydd yn dsygu sut i ddefnyddio ei sgiliau a’i profiadau yn y farchnad recriwtio graddedigion ehangach.

Bydd Scott hefyd yn mynychu Cinio Myfyriwr Cyflogedig y Flwyddyn (MCYF) ym Mhrifysgol Brunel i ddathlu ei lwyddiant ar 8 Gorffennaf, ac i glywed cyhoeddiad yr enillwyr cenedlaethol. 

AU26914