Academi Gweithwyr Llawrydd GO Wales

Yr arlunydd James Richards, a fynychodd yr Academi yn 2013

Yr arlunydd James Richards, a fynychodd yr Academi yn 2013

30 Mehefin 2014

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gwelwyd nifer cynyddol o raddedigion Cymru yn trechu’r dirwasgiad trwy ddefnyddio eu sgiliau lefel uchel i ddechrau eu busnesau eu hunain.

Mae Academi Gweithwyr Llawrydd GO Wales yn gynllun hyfforddi a ariennir yn llawn, sy’n para wythnos, wedi’i gynllunio i helpu graddedigion entrepreneuraidd  i symud i’r byd hunangyflogaeth.

Mynychodd James Richards, myfyriwr graddedig mewn Celf a Dylunio, o Lanon ger Aberaeron, Academi’r Graddedigion Llawrydd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2013.

Mae James yn disgrifio sut mae wedi cymryd cam i gyfeiriad newydd a sut mae GO Wales wedi’i helpu i gyflawni hyn: “Rwy’n arlunydd graffeg llawrydd gyda sgiliau dylunio peirianneg. Fe wnes i gais i Academi Gweithwyr Llawrydd GO Wales i ddatblygu fy sgiliau rhwydweithio busnes, fy nghysylltiadau busnes ac i gyfarfod â gweithwyr llawrydd eraill. Bu modd i mi drafod fy mhrofiad diweddar yn y sector llawrydd yn Aberystwyth ac archwilio’r cyfleoedd lleol i ddatblygu gyrfa a menter busnes.”

Ers cwblhau Academi’r Gweithwyr Llawrydd flwyddyn yn ôl, mae James wedi ehangu ei bortffolio o sgiliau a’i fusnes, i gynnwys amrywiaeth o gleientiaid na fyddai wedi’u cyrraedd fel arfer.

“Yn ddiweddar, rwyf wedi gwneud y symudiad hirddisgwyliedig a rhagweledig  i fyd addysgu theori ac ymarfer, ac yn parhau i ymarfer fel artist cysyniadol”, ychwanegodd. “Mae Academi Gweithwyr Llawrydd GO Wales yn parhau i ddarparu’r offer sydd eu hangen i gyrchu amgylchedd gwaith o ansawdd uchel gyda chymorth proffesiynol ardderchog gan amrywiaeth o bobl busnes o’r un feddylfryd.”

Cynhelir Academi Gweithwyr Llawrydd GO Wales nesaf ym Mhrifysgol Aberystwyth rhwng 4 ac 8 Awst. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 11 Gorffennaf, a gall graddedigion wneud cais ar-lein ar http://www.gowales.co.uk/Graduate/FreelancerAcademy

Go Wales
Mae GO Wales yn brosiect Llywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop sy’n dod â busnesau Cymru a sgiliau graddedigion at ei gilydd i ysgogi economi Cymru.

Mae GO Wales yn ei gwneud hi’n bosibl i fyfyrwyr a graddedigion ddatblygu eu gyrfaoedd yng Nghymru trwy brofiad gwaith o ansawdd a chyfleoedd hyfforddi gyda busnesau. Mae’r prosiect yn cyfrannu’n sylweddol at ddatblygu economi gwybodaeth yng Nghymru; mae gan fusnesau fynediad at sgiliau lefel uwch a syniadau ffres i ategu twf a datblygiad.

Cyflwynir y prosiect, a reolir gan Gyngor Cyllido Addysgu Uwch Cymru (CCAUC), gan Wasanaethau Gyrfaoedd Prifysgolion yng Nghymru.

Mae GO Wales yn derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop.

AU27014