Y Brifysgol yn noddi Ras yr Iaith
18 Mehefin 2014
Fe fydd Ras yr Iaith yn cael ei gynnal ar ddydd Gwener 20 Mehefin, ras sydd yn anelu i dynnu siaradwyr Cymraeg, pobl di-Gymraeg a dysgwyr at ei gilydd i hybu defnydd yr iaith Gymraeg.
Mae’r ras, sydd yn cael ei noddi gan y Brifysgol, yn dechrau ym Machynlleth am 8.45am ac yn gwneud ei ffordd i Aberystwyth erbyn 10am ger Canolfan Celfyddydau Prifysgol Aberystwyth.
Bydd y ras hefyd yn mynd i Dregaron, Llambed, Aberaeron, Cei Newydd, Llandysul a Castell Newydd Emlyngan orffen tua 7.30pm y noson honno ar y Cei yn Aberteifi.
Cylchdaith o 5km fydd llwybr y ras yn Aberystwyth a fydd yn dechrau ar waelod grisiauCanolfan y Celfyddydau.
Mae baton arbennig ar gyfer y ras ac fe fydd hon yn ei cael phasio ymlaen mewn mannau arbennig yn Aberystwyth; Canolfan Celfyddydau Prifysgol Aberystwyth, Caeau Ficerdy’r Brifysgol yn Llanbadarn, Llys y Brenin, Gerddi Rheidiol ac wedyn yn olaf, Ysgol Llwyn-yr-Eos yn Penparcau.
Mae croeso i unrhywun gymeryd rhan ac mae mwy o wybodaeth i’w gael yma amdani: http://rasyriaith.org/
Dywedodd Dr Rhodri Llwyd Morgan, Dirprwy Is-Ganghellor dros y Gymraeg a Diwylliant ym Mhrifysgol Aberystwyth, “Rydym yn hynod o falch o gefnogi Ras yr Iaith ac yn gobeithio gweld llawer o’n cydweithwyr yn dod atom i’n cefnogi neu’n dod yn eu ‘sgidiau rhedeg i ymuno â ni am ran neu’r cyfan o gymal Aberystwyth. Bydd o gysur efallai i rai mai i lawr y rhiw mae’r cymal sy’n dechrau ger Canolfan y Celfyddydau.
“Fel Prifysgol rydym wedi cynorthwyo cynhyrchu baneri a thaflenni’r Ras ac mae sawl cydweithiwr i ni wedi gweithio’n galed fel gwirfoddolwyr i gefnogi’r trefniadau. Dymunwn bob llwyddiant i Ras yr Iaith ac yn cymeradwyo’r Ras fel ffordd ysbrydoledig o godi ymwybyddiaeth a chefnogaeth i’r iaith Gymraeg.”
Dywedodd Sion Jobbins, un o drefnwyr Ras yr Iaith, “Gall unrhyw berson gymryd rhan yn y ras yma. Ras hwyl dros yr iaith yw hi ac mae croso cynnes i unrhywun gymryd rhan.
“Fe fyddwn ni yn mynd ar gyflymder digon hamddenol gan mai dim ras gystadleuol fel y cyfryw ydi hi. Yr enillydd fydd yr iaith Gymraeg, ein cymunedau a’n hiechyd wrth i ni dynnu pobl o bob cefndir at ei gilydd. Byddwch yn rhan o’r hwyl ac ymunwch a ni yn ystod y diwrnod.”
Os ydych chi eisiau rhedeg, stiwardio neu helpu cymal Aberystwyth yna, cysylltwch â Jaci Taylor o’r Ganolfan Gymraeg i Oedolion yma yn y Brifysgol; jmt@aber.ac.uk neu ar 01970 628462. Neu e-bostiwch y cyfeiriad canolog: post@rasyriaith.org
AU25514