IBERS yng ngarddwest Gardener’s Question Time
Dr John Warren
17 Mehefin 2014
Bydd Dr John Warren, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu IBERS Prifysgol Aberystwyth yn cynnal sesiwn sgwrsio gyda James Wong ac yn cyflwyno sgwrs yn ystod achlysur garddio pwysica’r flwyddyn, pan fydd rhaglen BBC Radio 4 Gardeners’ Question Time yn dod â’i Garddwest Haf Flynyddol i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru am y tro cyntaf ddydd Sul Mehefin 29.
Mae James Wong yn fotanegwr a hyfforddwyd yng ngerddi Kew, yn gyflwynydd gwyddoniaeth i’r BBC, Llysgennad yr RHS ac, yn ôl ei gyfaddefiad ei hun, yn dipyn o gîc.
Ecolegydd planhigion yw Dr Warren ac mae ganddo ddiddordebau ymchwil ym maes cynnal amrywiaeth a chyfoethogi gwerth cadwraeth. Bydd ei sesiwn sgwrsio gyda James Wong yn trafod tyfu llysiau mwy egsotig, ac yn ei arddull ddihafal ei hun, teitl ei sgwrs fydd ‘50 Shades of Green – the exotic sexual practices of plants’.
Bydd arddangosiad hefyd o fodel cyfrifiadurol y myfyriwr PhD o IBERS, Lizzy Donkin a allai helpu garddwyr i osgoi plâu drwy gymysgu eu rhesi o bys a moron a bydd y myfyriwr PhD o IBERS, Sam Thomas yn sôn am ei ymchwil i’r chwyn anarferol a geir yn ein tai gwydr.
Bydd yr Athro John Doonan a Dr Fiona Corke hefyd yn yr Arddwest i siarad am y Ganolfan Ffenomeg Planhigion Genedlaethol a gyllidir gan y BBSRC yn IBERS.
Mae Garddwest GQT yn gyfle unigryw i fwynhau clywed dwy raglen arddio yn cael eu recordio yn y gyfres radio flaenllaw hon ar y BBC.
Bydd cyfle i gyfarfod â thîm GQT, holi cwestiynau iddyn nhw a bydd arddangosiadau a digwyddiadau garddwriaethol ledled yr Ardd, gan gynnwys cerddoriaeth, bwyd a gweithgareddau i’r teulu cyfan.
Bydd y gorau o blith y gurus garddio’n bresennol, gan gynnwys Bob Flowerdew, Bunny Guinness, Chris Beardshaw, Matthew Wilson, Pippa Greenwood, Matthew Biggs, Carole Baxter a chadeiryddion GQT Eric Robson a Peter Gibbs.
Cynhelir Garddwest Haf GQT yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Llanarthne, Sir Gaerfyrddin, SA32 8HN ddydd Sul, Mehefin 29.
Cost tocynnau i’r digwyddiad yw £8.50 (ynghyd â ffi archebu o £1.50) a gellir eu harchebu drwy ffonio 01558 667148.
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y diwrnod e-bostiwch gqt@gardenofwales.org.uk.
AU24014