Ruth ar restr fer Gwobr Aber yn Gyntaf

Ruth Fowler

Ruth Fowler

05 Mehefin 2014

Mae Ruth Fowler, aelod o staff Prifysgol Aberystwyth ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Arwyr Di-glod yng Ngwobrau Aber yn Gyntaf, Menter Aberystwyth.  

Mae Ruth yn weinyddwraig ar gyfer y Rhwydwaith WISE ac yn diwtor preswyl yn Neuadd Pantycelyn yn y Brifysgol.  

Cafodd Ruth ei henwebu fel cydnabyddiaeth o’i rhôl fel Cydlynydd Rhwydwaith LHDT Enfys Aber, rhwydwaith staff lesbiaid, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol Prifysgol Aberystwyth.

Yn rhinwedd ei gwaith fel cydlynydd Enfys Aber, mae Ruth wedi sefydlu cyfres o ddigwyddiadau cymdeithasol Aberration yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, gan godi £2000 ar gyfer elusennau LHDT yn Rwsia ac Uganda.  

Mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth ac Undeb y Myfyrwyr y Brifysgol hefyd ar y rhestr fer ar gyfer gwobrau.  

Enwebwyd Canolfan y Celfyddydau ar gyfer yr Ymgyrch Farchnata Orau Ar-lein yn y Categori ar-lein, ac ar gyfer Gwobr yr Atyniad Gorau i Ymwelwyr yn y Categori Twristiaeth.  

Mae Undeb y Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth, ynghyd a Bar Theatr Canolfan y Celfyddydau ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Cerddoriaeth Byw Gorau yn y Categori Tafarndai a Bariau.   

Wrth longyfarch yr holl gyfranogwyr ar y rhestr fer, dywedodd Dr Rhodri Llwyd Morgan, Dirprwy Is-Ganghellor ar gyfer yr Iaith a Diwylliant Cymraeg, ac Ymgysylltu Allanol: “Rydym yn hynod o falch bod ymdrechion ein staff a’n myfyrwyr yn cael eu cydnabod yng Ngwobrau Cyntaf Aber ac yn llongyfarch yr holl unigolion a’r sefydliadau am eu cyfraniad tuag at wneud Aberystwyth yn lle gwych i fyw ac i weithio. Mae'r holl enwebeion ar gyfer y Brifysgol yn enghreifftiau gwych o gydweithio rhagorol rhwng y Dref a’r Brifysgol."  

Caiff enillwyr y Gwobrau Cyntaf Aber eu cyhoeddi mewn seremoni a gynhelir ar ddydd Gwener 6 Mehefin.  

Dechreuodd y Gwobrau Aber Cyntaf yn 2008 ac fe’u cynhelir bob yn ail flwyddyn er mwyn cydnabod cyfraniadau unigolion, grwpiau cymunedol a busnesau yn Aberystwyth a'r ardal.

Mae'r Gwobrau yn cael eu trefnu gan Fenter Aberystwyth, partneriaeth adfywio ar gyfer Aberystwyth a'r ardal gyfagos, gyda chefnogaeth nifer o sefydliadau a busnesau.

Eleni, noddir y categori Llety Ymwelwyr Gorau gan y Brifysgol.

 

AU24814