Tabl cynghrair prifysgol y Guardian

Campws Penglais

Campws Penglais

03 Mehefin 2014

Mae Prifysgol Aberystwyth yn buddsoddi dros £100m mewn cyfleusterau newydd, gan gynnwys llety newydd i fyfyrwyr a fydd yn agor yn ddiweddarach eleni, uwchraddio cyfleusterau astudio a dysgu, datblygu campws Arloesi a Menter newydd o bwys yng Ngogerddan, ac ailddatblygu’r Hen Goleg eiconig, cartref ysbrydol y Brifysgol.

Mae tablau cynghrair y Brifysgol yn amrywio'n fawr o ran natur, cynnwys a’r dull o’u llunio. O ganlyniad, mae perfformiad sefydliadau unigol yn amrywio. Yn yr arolwg YouthSight diweddar a gyhoeddwyd gan y Times Higher Education (15 Mai), dringodd Aberystwyth 1 safle i safle 46 allan o 111 o brifysgolion.

Mae tablau cynghrair hefyd yn hanesyddol. Mae Tabl Cynghrair Prifysgol y Guardian yn rhoi llawer o bwyslais ar foddhad myfyrwyr ac yn adlewyrchu canlyniadau siomedi Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr a gyhoeddwyd yn Awst 2013, ac sydd yn ei dro yn adlewyrchu profiadau y myfywyr a ymunodd â’r Brifysgol yn 2010. Mae'r canlyniadau hyn yn cael eu dylanwadu gan flynyddoedd lawer o danfuddsoddi mewn adnoddau dysgu, addysgu a llety. Mae rhaglen fuddsoddi uchelgeisiol y Brifysgol yn cywiro hyn. Yn ogystal, nid yw Tabl Cynghrair Prifysgol y Guardian yn ystyried ymchwil; maes o gryn gryfder i’r Brifysgol.

Calonogwyd y Brifysgol hefyd gan yr ymchwil diweddaraf a wnaed gan i-Graduate (data a gasglwyd yn ystod yr hydref 2013) sy’n dangos bod Prifysgol Aberystwyth yn mwynhau cyfraddau uchel iawn o fodlorwydd ymysg myfyrwyr rhyngwladol a myfyrwyr o’r Undeb Ewropeaidd. Gosododd y myfyrwyr Aberystwyth yn 1af yn y byd ar gyfer "Rheoli ymchwil", yn 7fed yn y byd ar gyfer “tiwtoriaid personol”, 4ydd yn y Deyrnas Gyfunol ar gyfer “cymorth ariannol”, ac ymhlith y 10 uchaf yn y byd am “ddiogelwch”.

• Mae Aberystwyth yn un o'r 40 prifysgol ymchwil gorau yn y Deyrnas Gyfunol yn ôl y Times Higher Education World University Rankings 2013-14 (cyhoeddwyd ym mis Hydref 2013), ac ymysg y 350 o brifysgolion gorau yn y byd.

• Mae Aberystwyth yn safle 35 yn y DG am 'Ansawdd Ymchwil' (Sunday Times University Guide 2014) ac Aberystwyth oedd enillydd Gwobr y Times Higher Education am Gyfraniad Eithriadol i Arloesedd a Thechnoleg 2013.

• Wrth edrych i'r dyfodol, ar ddiwedd 2012 lansiodd y Brifysgol ei Chynllun Strategol newydd sy'n nodi lle mae Prifysgol Aberystwyth yn anelu at fod yn 2017. Datblygwyd y cynllun uchelgeision hwn yn dilyn ymgynghori helaeth gyda’n myfyrwyr a’n staff, ac mae’n gosod yn hollol glir sut y bydd y Brifysgol yn datlbygu’n Sefydliad amlddisgyblaethol blaenllaw sy’n gwneud cyfraniad o bwys i Gymru, y Deyrnas Gyfunol ac ar draws y byd.

• Mae'r ffocws ar greu cyfleoedd i fyfyrwyr a staff, ar gynhyrchu gwaith ymchwil sy'n cael effaith, darparu addysgu ysbrydoledig, adeiladu ar enw da rhyngwladol y Brifysgol, gweithio mewn partneriaeth yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, a buddsoddi i sicrhau dyfodol cynaliadwy ar gyfer y Brifysgol ac Aberystwyth.

• Bydd y tablau cynghrair ar gyfer y dyfodol yn adrodd eu stori, ond drwy fynd i'r afael â'r blaenoriaethau hyn y bydd y Brifysgol yn newid profiad myfyrwyr a staff yn wirioneddol, ac yn adeiladu ar yr hyn sy’n cael ei gydnabod yn eang fel un o'r profiadau myfyrwyr gorau yn y byd.

AU24414