Cyfarwyddwr Moeseg a Chydraddoldeb

Yr Athro Kate Bullen

Yr Athro Kate Bullen

02 Mehefin 2014

Mae’r Athro Kate Bullen wedi ei phenodi yn Gyfarwyddwr Moeseg a Chydraddoldeb Prifysgol Aberystwyth.

Bydd yr Athro Bullen yn gweithio ochr yn ochr gyda Grŵp Gweithredol y Brifysgol, ac yn gyfrifol am ddatblygu, rhoi cyhoeddusrwydd a sicrhau cyfeiriad strategol y Brifysgol mewn moeseg a chydraddoldeb, ac am sicrhau canlyniadau sy’n cael eu monitro a'u cyflwyno'n llwyddiannus.

Ar hyn o bryd mae’r Athro Bullen yn Gyfarwyddwr Athrofa’r Gwyddorau Dynol. Ymunodd â Phrifysgol Aberystwyth yn 2008 er mwyn sefydlu’r Adran Seicoleg. Cyn hynny roedd yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe.

Yn ychwanegol at ymrwymiadau’r Brifysgol, mae’r Athro Bullen yn Gadeirydd Pwyllgor Moeseg Cymdeithas Seicolegol Prydain, sydd â chyfrifoldeb am foeseg a materion cydraddoldeb mewn seicoleg yn y Deyrnas Gyfunol, ac mae'n cynrychioli’r Gymdeithas Seicolegol Brydeinig fel aelod y Deyrnas Gyfunol ar Fwrdd Moeseg Ffederasiwn Ewropeaidd Cymdeithasau Seicoleg.

Mae hi hefyd yn arweinydd seicoleg ar gyfer Rhwydwaith Canser De Cymru ac mae wedi bod yn aelod arbenigol o'r Pwyllgor Moeseg Ymchwil ar gyfer Cymru ers 2010, yn dilyn 10 mlynedd o wasanaeth fel Is-Gadeirydd Pwyllgor Moeseg Ymchwil De-orllewin Cymru.

Bu’r Athro Bullen yn arwain timau hunan-asesu a oedd yn gweithio i ddatblygu ceisiadau’r Brifysgol ar gyfer Uned Herio Cydraddoldeb Athena SWAN a cheisiadau Nod Cydraddoldeb Rhywiol ym mis Ebrill.

Wrth drafod ei phenodiad, dywedodd yr Athro Bullen; "Rwyf wrth fy modd o gael y cyfle i ymgymryd â rôl Cyfarwyddwr Moeseg a Chydraddoldeb yn Aberystwyth. Mae pwyslais cynyddol ar draws y sector Addysg Uwch yn y DG ar y ddau faes pwysig hyn o weithgaredd. Mae’r llywodraeth genedlaethol, a chyrff megis Cyngor Ymchwil y DG (RCUK), yn cydnabod bod pwysigrwydd cyfle cyfartal, amrywiaeth a chywirdeb moesegol yn ganolog i addysg uwch, yn enwedig ar adeg o newid cyflym a globaleiddio addysg. Un o’r agweddau o weithio yn Aberystwyth yr wyf wedi ei gwerthfawrogi ar hyd yr adeg yw ein synnwyr o gymuned. Bydd y rôl newydd yn cynnig llawer o gyfleoedd i mi weithio gyda myfyrwyr a staff ym mhob adran i ddatblygu ymhellach ein fframwaith moeseg a chydraddoldeb a’r ffordd y mae’n cael ei weithredu.”

Dywedodd yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth; “Llongyfarchiadau cynhesaf i’r Athro Bullen ar ei phenodiad newydd. Dyma’r rôl Cyfarwyddwr cyntaf o'i fath ym Mhrifysgol Aberystwyth ac rydym yn credu, y cyntaf yn y sector a'r nod yw dod â blaengarwch yn y ddau faes pwysig hwn, moeseg a chydraddoldeb, at ei gilydd o dan arweiniad canolog cryf. Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous a phwysig wrth i ni fynd â’r Brifysgol ymlaen i’r cam nesaf yn ei hanes.”

Bydd yr Athro Bullen yn dechrau yn ei rôl newydd ar y 1af o Awst.

 

AU21514