Cyn-fyfyriwr Aber yn cipio’r Gadair

Gruffudd Antur

Gruffudd Antur

30 Mai 2014

Gruffudd Antur, cyn-fyfyriwr o’r Adran Mathemateg a Ffiseg Prifysgol Aberystwyth yw prifardd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Meirionnydd 2014.

Cyflwynir y gadair i’r Prifardd am gyfansoddi cerdd gaeth neu rydd, heb fod dros 100 llinell ar y testun Pelydrau.

I frig y rhestr daeth cerdd ‘Gwenno’, ffug enw Gruffudd Antur, am ei gerdd fuddugol. Yn ôl y beirniaid, Mari George ac Eurig Salisbury: “O’r darlleniad cyntaf, cawsom ein gwefreiddio gan awdl Gwenno. Cân serch yw hi ac yn wahanol i bob cystadleuydd arall, mae safon cerdd Gwenno yn gyson uchel o’r dechrau i’r diwedd. Mae swyn aeddfed y gynghanedd yn serio llinellau telynegol fel hyn yn y cof:

Yr hen ddyheu yn troi’n ddall
yn dawel; minnau’n deall
fod heulwen loywa’r ennyd
yn gorfod darfod o hyd,
a rhaid i’r ha’ ei droi’i hun
o hyd yn hydref wedyn.

“Gyda chlod mawr y mae Gwenno yn llawn haeddu cadair yr Eisteddfod,” meddai’r beirniaid.

Mae Gruffudd wedi bod yn cystadlu ac yn ymwneud â’r Urdd ar hyd ei oes fel rhan o Adran Llanuwchllyn, Ysgol y Berwyn, Aelwyd Pantycelyn ac Aelwyd Penllyn.

Mae ei ddyled a’i ddiolchgarwch yn aruthrol i’w deulu, ei gyfeillion, ei athrawon, ei ddarlithwyr a’i holl gydnabod am ennyn ei ddiddordeb mewn barddoniaeth a’r ‘pethe’, ac am wneud y cyfan yn gymaint o hwyl ar hyd y daith – “maen nhw’n gwybod yn iawn pwy ydyn nhw, gobeithio!” meddai Gruffudd.

Yn fardd sy’n ennill clod cynyddol, enillodd Gruffudd gadair Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Eryri yn 2012, a chadair yr Eisteddfod Ryng-golegol dros Aberystwyth yng Nghaerdydd yn 2011 ac ym Mangor yn 2012. Ef hefyd oedd bardd cadeiriol Eisteddfod Llanuwchllyn yn 2011.

Wrth drafod llwyddiant Gruffudd, dywedodd Dr Rhodri Llwyd Morgan, Dirprwy Is-Ganghellor dros y Gymraeg a Diwylliant Cymru, a Chysylltiadau Allanol ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Mae’n bleser llongyfarch Gruffudd ar ei lwyddiant diweddaraf.  Cyfrannodd Gruffudd lawer at y bwrlwm llenyddol a diwylliannol tra’n fyfyriwr israddedig yma ym Mhrifysgol Aberystwyth ac rydym yn falch o weld ei gyfraniad yn mynd o nerth i nerth.”

AU23614