Ail-lunio ein Prifysgol

Prifysgol Aberystwyth

Prifysgol Aberystwyth

22 Mai 2014

Mae'r Cyngor wedi cymeradwyo Cynllun Strategol ar gyfer 2012-17 i greu Prifysgol Aberystwyth gystadleuol yn rhyngwladol, sy’n gweithredu mewn ffordd gynaliadwy, ac sy’n darparu addysg prifysgol a phrofiad myfyrwyr rhagorol.

Mae'r Brifysgol yn buddsoddi mewn ymchwil a rhagoriaeth, gan gynnwys Campws Arloesi a Menter Aberystwyth yng Ngogerddan, a’n rhaglen arloesol i adnewyddu'r holl ystafelloedd dysgu sydd ar yr amserlen ganolog. Mae gan y Brifysgol gynllun uchelgeisiol ar gyfer cynyddu nifer y myfyrwyr o’r lefelau presennol, ac yn cydnabod bod gwella profiad y myfyrwyr a'r portffolio addysgu yn allweddol i hyn. Mae ein Hathrofeydd academaidd yn canolbwyntio ar yr addysgu a’r ymchwil nodedig sy'n cyfrannu tuag at wneud Aberystwyth yn lle arbennig. Rydym yn cynllunio ar gyfer Ysgol Milfeddygaeth ar gyfer Cymru, Campws ym Mauritius a fydd o fudd i'n holl fyfyrwyr, yma ac yn rhyngwladol, a rhaglenni newydd ar lefel israddedig ac ôl-raddedig yn y dyfodol. Bydd ein Strategaeth Iaith Gymraeg Gyfannol newydd yn ein helpu i gefnogi a hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg yn holl weithgareddau'r Brifysgol.

Mae hwn yn gyfnod o newid dihafal yn y sector Addysg Uwch yn y Deyrnas Gyfunol. O fewn yr amgylchedd hwn sy'n newid yn barhaus, mae pob prifysgol yn gorfod addasu. Nid yw Aberystwyth yn eithriad. Er enghraifft, ym mis Medi 2011, gwelsom ffigurau recriwtio myfyrwyr eithriadol. Fodd bynnag, yn dilyn cyflwyno ffioedd myfyrwyr, a gwaredu’r rheolaeth ar nifer y myfyrwyr yn Lloegr sydd ar fin digwydd, mae’r gystadleuaeth ar gyfer myfyrwyr ar gynnydd. Ochr yn ochr â llawer o sefydliadau a busnesau eraill, rhaid i'r Brifysgol wynebu lleihad pellach mewn cyllid a chynnydd mewn ymrwymiadau, gan gynnwys rhwymedigaethau pensiwn.

Mae Prifysgol Aberystwyth yn gwrando ar lais y myfyrwyr, gan gynnwys drwy ganlyniadau'r tablau cynghrair sydd weithiau yn siomedig ac sy'n adlewyrchu sefyllfa hanesyddol, a’r adborth uniongyrchol a gawn gan fyfyrwyr unigol a’r Undeb y Myfyrwyr ardderchog.  Mae'r Brifysgol yn sicrhau ei bod yn canolbwyntio yn gyfan gwbl ar brofiad y myfyrwyr, rhagoriaeth addysgu ac ymchwil sy'n gwneud gwahaniaeth. Caiff tablau cynghrair eu gyrru i raddau helaeth gan ddata o arolygon a ffurflenni statudol a all fod yn nifer o flynyddoedd oed - ac mewn prifysgol o faint Aberystwyth, gall mân newidiadau yn y canlyniadau gael effaith anghymedrol ar safleoedd mewn tablau cynghrair.

Fodd bynnag, mae tablau cynghrair ac arolygon sy'n ystyried y data diweddaraf sydd ar gael, yn dangos bod Aberystwyth yn gwella o ran safle. Er enghraifft, mae Aberystwyth yn un o'r 40 prifysgol ymchwil uchaf yn y Deyrnas Gyfunol yn ôl Safleoedd Prifysgol y Byd Addysg Uwch y Times 2013-14 (a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2013), ac yn y 350 o brifysgolion gorau yn y byd. Mae Aberystwyth yn 35ain yn y Deyrnas Gyfunol am 'Ansawdd Ymchwil' (Sunday Times University Guide 2014) ac yn enillydd Gwobr Addysg Uwch y Times am Gyfraniad Eithriadol i Arloesedd a Thechnoleg ar gyfer 2013. Mae'r ymchwil diweddaraf a wnaed gan i-Graduate (data a gasglwyd yn ystod hydref 2013) yn dangos bod Prifysgol Aberystwyth yn mwynhau cyfraddau boddhad uchel iawn ymysg ein myfyrwyr  rhyngwladol ac Undeb Ewropeaidd. Rhoddodd y myfyrwyr Aberystwyth yn safle rhif 1 yn y byd ar gyfer "Rheoli ymchwil", yn 7fed yn y byd ar gyfer "tiwtoriaid personol" (95.4%), yn 4ydd yn y Deyrnas Gyfunol ar gyfer "cymorth ariannol" ac ymhlith y 10 uchaf yn y byd am “ddiogelwch”. Yn ogystal, derbyniodd y Gwobrau Dan Arweiniad Myfyrwyr diweddar a gydlynwyd gan Undeb y Myfyrwyr ac a gefnogwyd gan y Brifysgol, dros 400 o enwebiadau. Mae hyn yn dangos cydnabyddiaeth wirioneddol o ragoriaeth mewn addysgu a chefnogi, ac yn adlewyrchu’r ymrwymiad i wella profiad y myfyriwr ar draws y Brifysgol.

Felly, mae'r Brifysgol wedi cychwyn ar raglen o newid i sicrhau ein cynaladwyedd yn y dyfodol, gan sicrhau bod profiad y myfyrwyr yn gwella a bod ein cynnig o addysgu yn diwallu anghenion poblogaethau myfyrwyr yn y dyfodol. Mae'r Brifysgol yn gweithio gyda'n staff, Undebau Llafur, ac Undeb y Myfyrwyr i gyflawni gostyngiad blynyddol o 4% yn ein costau dros y tair blynedd nesaf. Bydd hyn yn cael ei gyflawni trwy adnewyddu portffolio, newidiadau i feysydd gwasanaeth a defnydd mwy effeithiol o adnoddau. Yn dilyn datblygiad llwyddiannus yr Athrofeydd academaidd, dyma'r cam angenrheidiol nesaf i wneud Prifysgol Aberystwyth yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol, ac i sicrhau ein bod yn cynhyrchu’r gwargedion sydd eu hangen arnom i ddatblygu ein hystâd a mentrau newydd.

Rydym yn bwriadu cyflawni'r gostyngiad angenrheidiol mewn costau ar draws y Brifysgol, ac ar yr un pryd wella profiad y myfyrwyr a phroffil ymchwil. Ein nod yw sefydliad mwy darbodus sy'n cwrdd ag anghenion ein poblogaeth myfyrwyr ar hyn o bryd ac yn y dyfodol. Mae'r Athrofeydd Academaidd yn gweithio gyda'u Penaethiaid Adrannau a chynrychiolwyr y myfyrwyr, i adolygu ac adnewyddu’r cyrsiau a rhaglenni a gynigir, i sicrhau amrywiaeth amlwg o gyrsiau sydd wedi eu ffocysu ac yn ddeniadol. Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i gynnal ein henw da am ragoriaeth addysgu, buddsoddi mewn cyflawni arloesol, a gwella cyflogadwyedd myfyrwyr.

Fel gydag unrhyw Brifysgol, mae ein rhaglenni yn ôl y galw a bydd hyn yn arwain at derfynu rhai rhaglenni nad ydynt bellach yn ddeniadol i fyfyrwyr, tra ar yr un pryd yn datblygu cyrsiau newydd, unigryw a pherthnasol, a ddarperir drwy ddulliau amrywiol ac arloesol.

Mae Gwasanaethau Cefnogi’r Brifysgol yn gweithio gyda'i gilydd i wella gwasanaethu sy’n addas at y diben ac sy’n hygyrch ar gyfer ein myfyrwyr a staff. Byddwn ar yr un pryd yn lleihau cymhlethdod a chost. Mae cydweithwyr o fewn meysydd gwasanaeth yn datblygu ffyrdd i wella a symleiddio darparu gwasanaethau sy’n ddarbodus ac sy’n canolbwyntio ar y cwsmer. Bydd myfyrwyr a staff yn cael y cymorth cywir ar yr adeg iawn yn fwy effeithlon. Rydym yn gwybod y gall hyn hefyd rhyddhau arbedion ar unwaith; er enghraifft cyflawnodd Ymgyrch Diffodd Arbed Ynni’r Myfyrwyr arbediad mewn costau ynni ar unwaith.

Mae'r Brifysgol yn hyderus bod yr heriau presennol yn cynrychioli cyfle ac rydym yn benderfynol o fachu ar y cyfle hwnnw. Gyda brwdfrydedd, gwybodaeth ac arbenigedd ein staff a'n cymuned arbennig o fyfyrwyr, rydym yn parhau i edrych ymlaen at ddyfodol llwyddiannus a chynaliadwy.