‘Language geography and the mapping of Celtic Britain and Ireland'

Yr Athro Charles Withers

Yr Athro Charles Withers

07 Mai 2014

Bydd yr Athro Charles Withers, Athro Ogilvie mewn Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Caeredin, yn traddodi Darlith O'Donnell ym Mhrifysgol Aberystwyth ar ddydd Mercher 7 Mai.

Cynhelir y ddarlith yn Sinema Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth am 6 yr hwyr.

Pwnc y ddarlith fydd ‘Language geography and the mapping of Celtic Britain and Ireland’, a bydd yn archwilio'r 'traddodiadau' o fapio iaith ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Mae ei waith yn perthyn i ddau faes penodol: daearyddiaeth hanesyddol iaith a hunaniaeth, a hanes diwylliannau gwybodaeth ddaearyddol.

Mae’r Athro Withers yn Gymrawd yr Academi Brydeinig a Chymdeithas Frenhinol Caeredin. Yn 2012 cyflwynwyd iddo Fedal Aur Sylfaenydd y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol (gyda Sefydliad Daearyddwyr Prydain) am ei 'waith o safon byd mewn daearyddiaeth ddiwylliannol a hanesyddol'.

Yn yr un flwyddyn, enillodd y gyfrol yr oedd yn gydawdur arni, Scotland: Mapping the Nation, wobr Llyfr Ymchwil y Flwyddyn yr Alban gan Gymdeithas Saltire yr Alban.

Mae’n gydawdur ar lyfr arall hefyd Travels into Print: Exploring, Writing, and Publishing with John Murray 1773-1859, a fydd yn cael ei gyhoeddi gan Wasg Prifysgol Chicago yng ngwanwyn 2015.

Ar hyn o bryd, mae’r Athro Withers yn gweithio ar ddaearyddiaeth hanesyddol y Prif Feridian, prosiect a gefnogir gan Gymrodoriaeth Ymchwil Leverhulme.

AU18114