Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr
Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear gipiodd y wobr am Adran y Flwyddyn.
06 Mai 2014
Cafodd enillwyr y Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr - a enwebwyd gan fyfyrwyr eu cyhoeddi nos Wener diwethaf ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Undeb y Myfyrwyr oedd yn cynnal y seremoni farweddog ym Medrus, gyda chefnogaeth y Brifysgol a rhoddwyd wyth gwobr.
Enillodd Dr Brieg Powell y Wobr am Ragoriaeth mewn Addysg Gymraeg; enillodd Dr Christian Enemark, Aelod Staff Newydd y Flwyddyn; Dr Tom Holt Gwobr Addysgu Eithriadol; enillodd Dr Kevin Grove wobr Tiwtor Personol y Flwyddyn; enillodd Ms Rose Sillars y wobr Athro Ôl-raddedig; enillodd Mr Ben Holihead, Gynrychiolydd Myfyriwr y Flwyddyn; enillodd Ms Ffion Hoare deitl Staff Cymorth y flwyddyn a’r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear gipiodd y wobr am Adran y Flwyddyn.
Meddai Grace Burton, Swyddog Addysg, Undeb y Myfyrwyr y Brifysgol: "Roedd hi’n fraint arbennig cael arwain y dathliadau a chydnabod yn union faint o dalent sydd yma yn Aberystwyth. Roedd y myfyrwyr wedi bod yn ceisio cael enwau'r enillwyr gen i am wythnosau, felly roeddwn i’n wirioneddol falch ein bod ni o'r diwedd yn dathlu llwyddiannau cydweithwyr a ffrindiau!
"Mae'r gwobrau yn boblogaidd tu hwnt, ac roedd rhai enwebiadau gan y myfyrwyr yn hynod deimladwy, sy’n yn dangos yr effaith enfawr mae staff yn ei gael ar brofiad myfyrwyr. "
Ychwanegodd yr Athro John Grattan Dirprwy Is – Ganghellor dros Brofiad Myfyrwyr y Brifysgol: "Hoffwn longyfarch pob un o'r enillwyr a'r enwebeion yn y Gwobrau Dysgu Myfyrwyr dan Arweiniad eleni. Mae'n bleser mawr i weld ein myfyrwyr yn pleidleisio dros bwy maen nhw’n teimlo yw'r sêr pan ddaw i ddysgu ac ysbrydoli. Dyma’r hyn sy'n gwneud Prifysgol Aberystwyth mor arbennig."