Diwrnod Agored Rhithwir
23 Ebrill 2014
Cymerwch ran mewn taith rithwir o gysur eich cartref eich hun ar ddydd Mercher 30 Ebrill.
Os ydych yn ystyried dod i Aberystwyth, eisoes yn y brifysgol, yn dychwelyd i astudio neu'n gyffredinol eisiau datblygu eich sgiliau, dewch i gael yr holl wybodaeth rydych ei hangen yn Niwrnod Agored Rhithwir Aberystwyth.
Mae'r profiad rhithwir, a gynhelir rhwng 6-8yh, yn rhoi’r cyfle i unigolion ddarganfod mwy am astudiaethau a bywyd israddedig ag ôl-raddedig yn Aberystwyth.
Dewch ar daith o amgylch y campws, gwrando ar sgyrsiau a gofyn cwestiynau byw i'n siaradwyr os oes gennych unrhyw ymholiadau. Ymunwch â'n Cyrsiau sesiwn holi ac ateb ac ymunwch â'r sgwrs ar Twitter drwy #AberystwythVOD a drwy’r wefan.
Dywedodd Dr Russell Davies, Rheolwr Marchnata ym Mhrifysgol Aberystwyth: "Os mai cael blas ar fywyd myfyriwr rydych chi eisiau neu gasglu gwybodaeth am gwrs penodol neu eisiau gofyn cwestiwn penodol i un o'n harbenigwyr, bydd y diwrnod agored rhithwir yn rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i gynllunio tuag at eich dyfodol."
Mae digonedd o wybodaeth hefyd ar y diwrnod am y Gwasanaethau Cefnogi Myfyrwyr, Undeb y Myfyrwyr, llety'r Brifysgol, y dref, ffioedd, cyllid, ysgoloriaethau a bwrsariaethau.
Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Diwrnodau Agored Prifysgol Aberystwyth http://www.aber.ac.uk/cy/open-days/
Mae gan Brifysgol Aberystwyth yr ystod orau o Ysgoloriaethau, Bwrsariaethau a Gwobrau o unrhyw brifysgol yn y DG (Higher Expectations Report / Youth Sight 2012-13) a’r campws prifysgol fwyaf diogel yng Nghymru a Lloegr (Complete University Guide 2013 / Daily Mail 22/07/13).
AU16314